Pwy yr ydym ni'n ei helpu

Mae ymron i bawb yn y DU wedi elwa o brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Er 1994, mae mwy na £27 biliwn wedi'i godi dros Achosion Da, yn ariannu dros 370,000 o brosiectau yn sectorau'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennol, gwirfoddol, iechyd, addysg a'r amgylchedd. Mae pob prosiect yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a chymunedau ar draws y DU.

Y Celfyddydau

Meddyliwch am ryw ffurf o gelfyddyd ac mae'n ddiogel dyfalu bod y Loteri Genedlaethol yn ei ariannu mewn rhyw ffurf: o beintio, i ddawnsio, a'r theatr i'r ffilm. Mae'r Loteri yn ariannu digwyddiadau, gweithgareddau, cyfarpar a pherfformiadau ynghyd â chanolfannau a mudiadau celfyddydau. Nid dim ond y rhai proffesiynol sy'n elwa chwaith, mae digon o brosiectau celfyddydol ble y gallwn ni i gyd roi cynnig arni.

Addysg

Boed yn hen neu'n ifanc, gallwn oll ddysgu sgiliau newydd. Mae'r Loteri Genedlaethol yn buddsoddi miliynau o bunnau mewn prosiectau diddorol ac arloesol sydd wedi'u cynllunio i'n helpu i wneud hynny'n union. O'r rheini sy'n cael aelodau hyn y gymuned ar-lein neu'n rheini sy'n cynnig hyfforddiant i helpu pobl i ganfod gwaith, i gynnig cymorth ychwanegol ar gyfer plant anabl.

Yr Amgylchedd

Rydym yn aml yn cymryd ein hamgylcheddau yn ganiataol ac yn anghofio rhoi’r amser, y cariad a'r gofal y maen nhw'n eu haeddu. Mae'r Loteri Genedlaethol wedi helpu i ariannu gofodau awyr agored hyfryd yn ymestyn dros y wlad gyfan gydag ystod eang o brosiectau i sicrhau eu bod yn edrych yn wych - ynghyd â rhai i'n hannog ni i ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Iechyd

Rydym oll eisiau bod yn iach, ond mae galwadau dyddiol megis gwaith, plant a gwaith ty yn aml yn golygu ein bod yn anghofio am ein hiechyd. Mae miliynau o bunnau o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau sydd wedi'u hanelu at wella ein hiechyd a'n lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Treftadaeth

Mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau ein treftadaeth unigryw er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ei brofi a'i fwynhau. Mae hefyd yn diogelu ardaloedd o harddwch naturiol ac mae wedi gwella cannoedd o barciau ar draws y DU.

Chwaraeon

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi ariannu dros 1,200 o athletwyr i'r safon ryngwladol uchaf. Mae arian y Loteri hefyd yn cael ei ddefnyddio i annog pobl o bob cwr o'r DU i gyfranogi mewn chwaraeon a chadw'n heini trwy ddarparu cyfleusterau a hyfforddiant gwych.

Gwirfoddol/Elusennol

Mae'r maes ariannu hwn yn ymdrin ag ystod hynod amrywiol o brosiectau, pobl a lleoedd, sy'n hanfodol ar gyfer cymunedau lleol. Yn eu plith y mae prosiectau sy'n helpu pobl ddigartref i ganfod tai a gwaith, cynnig therapi ar gyfer plant anabl, gwaith i stopio ein pobl hyn rhag teimlo'n unig ac wedi'u hanwybyddu, hyrwyddo bwyta'n iach, adeiladu siopau pentref a chanolfannau cymuned mewn lleoliadau gwledig, a chaniatáu i filoedd o gyn-filwyr y rhyfel i ddychwelyd i wledydd ble y gwnaethant wasanaethu er mwyn iddynt anrhydeddu eu cymrodyr syrthiedig.

Mae'r Loteri Genedlaethol hefyd yn cynnig ariannu ar gyfer prosiectau arbennig, megis...

Grantiau Mileniwm Arbennig

Defnyddiwyd £2 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol i nodi'r Mileniwm. Fe wnaeth yr arian gefnogi ystod eang o brosiectau a phobl o bob cwr o'r DU, o grantiau cyfalaf mawr ar gyfer atyniadau o safon fyd-eang i grantiau bach ar gyfer prosiectau cymunedol.

Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 Llundain

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu hyd at £2.2 biliwn i helpu i lwyfannu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 a'r Olympiad Diwylliannol. Mae gwybodaeth ar 1.8 biliwn o'r ariannu hwn ar gael yn http://www.culture.gov.uk/what_we_do/national_lottery/6715.aspx

Sut y mae'r arian hwn yn cael ei ddosbarthu?

Mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddosbarthu gan 13 o fudiadau annibynnol, gyda phob un â gwybodaeth arbenigol o'u sectorau. Mae pob un yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth ac yn dilyn y canllawiau llymaf wrth benderfynu ar ba geisiadau fydd yn llwyddiannus.

Yr 13 dosbarthwr y Loteri yw:

  • Cyngor Celfyddydau Lloegr
  • Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Y Gronfa Loteri Fawr (uniad rhwng y Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd)
  • Y Sefydliad Ffilm Prydeinig
  • Creative Scotland
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Dosbarthwr Loteri’r Gemau Olympaidd
  • Cyngor Chwaraeon Gogledd Iwerddon
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Sport England
  • Sport Scotland
  • UK Sport

Am fwy o wybodaeth ewch i www.arianyloteri.org.uk.

Sut y gallaf i ymgeisio am grant?

I gael rhagor o wybodaeth am ymgeisio am ariannu, cysylltwch â Llinell Gymorth Ariannu'r Loteri Genedlaethol ar 0845 275 0000 neu ewch i www.arianyloteri.org.uk, ble y gwelwch wybodaeth am bob un o’r ffrydiau ariannu gwahanol a pha rai sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau.

Yn ôl i'r brig

Canfod Achosion Da yn agos atoch chi

Canfod Achosion Da yn agos atoch chi
£29,634,722 *

Wedi'i godi hyd yma'r wythnos hon ar gyfer y DU

On average there are 120 National Lottery-funded projects in every postcode district.