Defnyddio'r cyfeiriadur hwn
Beth sydd i'w weld ar y safle hwn?
Mae Loteri Genedlaethol y DU yn dychwelyd cyfran uwch o'r refeniw yn ôl i gymdeithas nag unrhyw weithredwr y Loteri arall yn y byd. Mae hyn yn cynnwys Toll y Loteri ynghyd ag arian ar gyfer Achosion Da.
Mae'r cyfeiriad hwn yn esbonio sut y mae'r arian wedi'i wario, gan ganiatáu i chi weld faint o arian y Loteri Genedlaethol sydd wedi'i ddyfarnu i brosiectau yn agos atoch chi, a hynny hyd at 31 Rhagfyr 2011.
Rydym yn siwr y cewch chi eich rhyfeddu gan faint ac amrywiaeth y prosiectau yr ydym yn eu cefnogi.
Sut i ddefnyddio’r safle hwn
Ni allai ddefnyddio ein cyfeirlyfr fod yn haws.
Nodwch eich côd post i gael hyd i restr o brosiectau yn ardal eich Awdurdod Lleol. Gallwch gael gwybod hefyd sut rydym yn helpu yn eich rhanbarth gan ddefnyddio’r map ar ein hafan – cliciwch ar eich rhan o’r DU i ddechrau arni.
Wyddech chi…?
Rydych chi'n siwr o gael eich synnu gan faint sydd wedi'i ariannu yn agos atoch chi.
Ond cyn i chi ddechrau archwilio, mae'n werth nodi mai dim ond rhan o'r stori y mae'r cyfeiriadur yn ei adrodd:
- Peidiwch ã chymryd yn ganiataol mai'r prosiectau sydd wedi'u rhestru yn eich ardal chi yw'r unig rai yr ydych chi'n elwa ohonynt! Mae grantiau yn cael eu cofnodi yn y fan ble mae'r mudiadau wedi'u lleoli, yn aml iawn yn Llundain, er eu bod yn gwneud gwaith anhygoel yn ardaloedd eraill yn y wlad.
- Mae rhai grantiau'r Loteri Genedlaethol o fudd i'r Deyrnas Unedig gyfan - er enghraifft llwybr beicio neu gamlas sy'n croesi sawl ffin ranbarthol, ffilm sy'n cael ei dosbarthu ar draws y DU, gwefan neu linell ffôn y gall pobl ar draws y wlad eu defnyddio, neu ddigwyddiad celfyddydol teithiol sy'n teithio i sawl lleoliad.
- Mae grantiau yn cael eu cofrestru ar un dyddiad er fe allai'r arian ganiatáu i fudiadau ffynnu am sawl blwyddyn
- Nid yw grantiau ar gyfer ariannu isadeiledd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 wedi'u cynnwys yn y cyfeiriadur hwn chwaith gan iddynt gael eu dyfarnu o gronfa ar wahãn - Cronfa Ddosbarthu'r Loteri Olympaidd - mae manylion y grantiau hyn i'w gweld ar wefan DCMS yn: http://www.culture.gov.uk/what_we_do/national_lottery/6715.aspx
Mae'r ffeithiau hyn yn golygu nad yw'n bosibl gwneud cymariaethau ariannu rhanbarthol llwyr ar sail crynodebau sydd wedi'u cynnwys yn y cyfeiriadur hwn.
Yn ôl i'r brigCanfod Achosion Da yn agos atoch chi
Wedi'i godi hyd yma'r wythnos hon ar gyfer y DU
On average there are 120 National Lottery-funded projects in every postcode district.
