Straeon y Loteri

Cyfrif Ystlumod Cymru
Date added to database: 29/03/2010

Mewn trefi a dinasoedd, fe all hi ymddangos yn amhosibl dod yn agos at fywyd gwyllt. “Ond y cyfan sydd angen yw gwybod ble i edrych,” dywed Steve Lucas, Swyddog Ystlumod Cymru gyda Chyfrif Ystlumod Cymru. Yn Abertawe, Castell-nedd, Caerdydd a Chasnewydd, mae 232 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn arolygon ystlumod trefol, ac maent yn profi llwyddiant wrth edrych yn y mannau cywir.

Mae’r prosiect, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn anelu at gynnwys pobl o ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol wrth helpu i achub ystlumod. “Mae pobl yn teimlo’n ddiogelach ac yn fwy cyfforddus mewn amgylchedd y maent yn gyfarwydd ag ef,” dywed Steve. “Gallant gamu allan o ddrws eu ty gyda detector ystlumod a cherdded cilomedr, gan ddod i adnabod yr ystlumod yn eu hardal.”

Yn ystod haf 2009, fe wnaeth gwirfoddolwyr gofnodi 952 awr rhyfeddol o ddarganfod. Nid oedd llawer wedi gweld ystlum o’r blaen. Cawsant hyfforddiant gan Steve a’r tîm Cyfrif Ystlumod Cymru ar sut i gasglu data trwy ddefnyddio detector ystlumod i adnabod synau penodol. Bydd y ffigurau hyn yn cael eu dadansoddi i gael syniad o'r poblogaethau ystlumod, gan helpu i warchod y rhywogaeth hon sydd mewn perygl. Mae arian y Loteri yn talu am bopeth o gyfarpar a chostau teithio i ddigwyddiadau a deunydd cyhoeddusrwydd.

“Nid yw gwrando am ystlumod mor anodd ag y mae rhai yn ei feddwl,” dywed Steve. “Rhaid i chi fynd allan yn y nos, ond mae’n beth cymdeithasol os ydych chi’n mynd mewn grwp.” Mae rhai gwirfoddolwyr wedi’i bachu. Dywed Steve mai’r rheswm dros hyn yw bod y prosiect yn rhoi synnwyr cyfrifoldeb iddynt, ynghyd ag arddangos ochr wahanol i’r amgylchedd.”

“Mae dod a byd anhyglyw'r ystlumod i bobl yn anhygoel,” dywed. “A gall pobl weld bywyd gwyllt nosol eraill hefyd fel moch daear, tylluanod a llwynogod. Mae’n gwneud iddynt feddwl: os na wnawn ni ddiogelu bywyd gwyllt, pwy arall wneith?"

 

Total funding received: £49,400
Other stories from this region
Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan ar ddwy olwyn yn lle pedair
Addysg Awyr Agored I Blant A Nam Gweledol