Straeon y Loteri

Y Cartws, Llandudoch
Date added to database: 15/12/2009

Am flynyddoedd maith, nid oedd y cartws Fictorianaidd ym mhentref Llandudoch, Sir Benfro yn ddim mwy na chartws llychlyd a oedd yn cael ei ddefnyddio i storio arteffactau o’r abaty Normanaidd gerllaw. Yn sgil prosiect dan arweiniad elusen Hanes Llandoch, mae wedi dod yn ganolfan dreftadaeth ar gyfer yr abaty a’r ardal gyfagos, yn ogystal â chanolfan dysgu gydol oes yn cynnig ystod o gyrsiau addysgol. Cefnogwyd y gwaith adfer a’r estyniad gan grant y Loteri Genedlaethol, a helpodd hefyd i sefydlu’r prosiect a lansio caffi a siop a fydd yn galluogi i’r ganolfan ddod yn hunangynaliadwy.

Mae’r arian wedi’i ddefnyddio i gyflogi aelodau allweddol o staff, gan gynnwys cydlynydd i’r ganolfan a goruchwylydd arlwyo. “Fe alluogodd y grant i ni sicrhau bod prosesau hanfodol yn cael eu gwneud yn broffesiynol,” dywed Nia Siggins cydlynydd y ganolfan, “Sicrhaodd hynny y gallem ddenu ymwelwyr mewn niferoedd digonol. Byddwn hyd yn oed yn dweud y byddai’r buddsoddiad cyfalaf yn yr adeilad wedi mynd i wastraff heb gyfraniad y loteri."

Yn sicr mae’r ganolfan wedi profi’n boblogaidd hyd yma, gyda mwy na 40,000 o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r niferoedd yn cynyddu’n gyson. Mae llawer yn dod i edrych ar yr arddangosfa ynglyn â’r abaty, neu gymryd rhan mewn digwyddiadau megis perfformiadau dramatig ymhlith yr adfeilion, adloniant canoloesol a’r seremoni flynyddol i fendithio pysgotwyr. Yn y cyfamser, mae’r ganolfan dysgu gydol oes yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau yn amrywio o TG i ddechreuwyr, hanes a Chymraeg i fywluniad, fideo a golygu ffilm.

www.welshabbey.org.uk

 

Total funding received: £249,782
Other stories from this region
Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro