termau a ddefnyddir
termau a ddefnddir
- Defnyddio’r wefan
- Eiddo Deallusol / hawlfraint
- Polisi Cysylltu
- Preifatrwydd
- Diogelu rhag firysau
- Ymwadiad
- Amrywiadau
Mae’r dudalen hon yn nodi’r telerau ac amodau ar gyfer defnyddio gwefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol. Mae hefyd yn amlinellu ein Polisi Preifatrwydd. Hawlfraint Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol yw’r wefan hon ac fe’i gynhelir gan yr Uned sydd â swyddfeydd yn 1 Plough Place, Llundain, EC4A 1DE.
Defnyddio’r Wefan
Gallwch ddefnyddio gwefan Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol yn ddibynnol ar y Telerau a'r Amodau a welir ar y dudalen hon. Mae mynd at y wefan hon a'i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau sydd mewn lle ar amser ei defnyddio.
Eiddo Deallusol / Hawlfraint
Caiff y deunydd ar y wefan hon ei ddiogelu gan hawlfraint oni nodir fel arall. Ni elli’r atgynhyrchu’r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint heb gael awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol.
Ble nodir bod caniatâd i atgynhyrchu deunyddiau o’r wefan (er enghraifft deunyddiau ar gyfer defnydd yn y wasg) neu rhoddi’r caniatâd ar ddeunyddiau a ddiogelir gan hawlfraint, gellir atgynhyrchu’r deunyddiau am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’r cyd desun yn gamarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y wefan sydd o dan hawlfraint y Goron ei hailgyhoeddi neu ei chopïo, mae'n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.
Cewch argraffu copi o unrhyw dudalen ar gyfer defnydd personol. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn ddeunydd hawlfraint trydydd parti. Mae’n rhaid cael awdurdod y deiliaid hawlfraint dan sylw cyn atgynhyrchu deunydd o'r fath.
Nodau perchnogol y Loteri Genedlaethol yw enwau, delweddau a logos adnabod y Loteri Genedlaethol a ni ellir eu hatgynhyrchu heb gael awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol.
Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd o'r fath at:
National Lottery Promotions Unit
1 Plough Place
London
EC4A 1DE
Telephone: 020 7211 3991
Fax: 020 7211 3992
Email: info@lotterygoodcauses.org.uk
Rhowch fanylion y defnydd y bwriadwch ei wneud o'r deunydd perthnasol a chynnwys manylion cysylltu â chi:- enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac ebost.
Polisi Cysylltu
Nid oes yn rhaid ichi ofyn caniatâd i gysylltu yn uniongyrchol gyda'r tudalennau a welir ar y wefan hon. Er hynny, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar ein gwefan. Rhaid i'n tudalennau lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Mae gennym gysylltiadau gyda'n derbynwyr grantiau, partneriaid a gwefannau sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol sy'n ychwanegu at ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barn na chysylltiadau o'r gwefannau hyn.
Preifatrwydd
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yn ddefnyddiwr anhysbys o'r wefan, nid yw gwefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol yn storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch ond, yn hytrach, yn cofnodi eich cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan weinydd y we. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch heblaw am eich cyfeiriad IP a ddefnyddir i gofnodi y nifer sy'n ymweld â'n gwefan.
Defnyddir data personol (e.e. gwybodaeth a allai eich adnabod) a gyflwynir i wefan y Cronfa Loteri Fawr i ymateb i'ch adborth yn unig. Er mwyn ateb eich ymholiadau yn effeithiol, fe all hyn olygu ein bod yn pasio eich manylion i drydydd parti priodol e.e. un o arianwyr y Loteri er mwyn iddyn nhw ymateb yn uniongyrchol. Mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o’ch ymholiad er mwyn helpu datblygu ein gwasanaethau.
Diogelu rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio'r gwefannau hyn.
Ymwadiad
- Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio'r Wefan yn llwyr ar eich cyfrifoldeb eich hun ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled (boed hynny'n niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol) sy'n deillio o'ch defnydd o'r Wefan a'r Deunydd.
- Darperir yr holl Ddeunydd ar sail "FEL AG Y MAE" yn unig. Ni allwn warantu y bydd y Wefan neu unrhyw Ddeunydd a ddarperir yn cwrdd â'ch anghenion nag y bydd yn gyflawn, heb wallau, ac yn gywir nag y bydd ar gael heb ymyriadau, ddiffyg neu wall. Felly, yn unol ac i'r graddau uchaf a ganiateir yn ôl y gyfraith berthnasol, rydym drwy hyn yn gwadu pob gwarant ac amodau, boed hwy'n benodol, ymhlyg neu'n statudol parthed y Wefan a'r Deunydd, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw warantiad o safon dderbyniol neu ffitrwydd ar gyfer pwrpas penodol a chan beidio torri ar hawliau trydydd parti.
- Byddwn yn anelu at gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau cyn gynted â phosibl ar ôl cael ein hysbysu ohonynt.
- Rydych yn cytuno y byddwch yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau perthnasol (gan gynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol).
Amrywiadau
Gall y telerau yma amrywio o dro i dro. Gwnewch y siŵr eich bod yn adolygu’r telerau ac amodau yn rheolaidd gan y byddwn yn tybio eich bod wedi derbyn y newid os y byddwch yn parhau i ddefnyddio’r wefan ar ôl i newid gael i bostio.



