Hygyrchedd
Accessibility
Brousealoud a PDF Aloud
Gellir galluogi'r wefan ar gyfer lleferydd trwy ddefnyddio Browsealoud. Mae'r meddalwedd yma am ddim i chi ei ddefnyddio ac mae ar gael mewn dau fersiwn: darllenydd sgrin a darllenydd PDF.
Dilynwch y cysylltau isod i agor gwefan browse aloud a lawrlwytho'r feddalwedd.
www.browsealoud.com/downloads.asp (Darllenydd sgrin gwefan)
www.pdfaloud.com/downloads.asp (Darllenydd PDF)
Bysellau mynediad
Mae’r wefan yma yn defnyddio bysellau mynediad sef llwybr byr i brif adrannau gwefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol.
Gallwch ddefnyddio bysellau mynediad i symud o gwmpas y wefan trwy ddefnyddio'r bysellfwrdd: I ddefnyddio bysellau mynediad, pwyswch y bysell Alt am rai eiliadau (bysell Afal ar gyfrifiadur Macintosh) ac yna pwyswch y bysell ar gyfer y dudalen o'ch dewis. Yna efallai y bydd angen i chi bwyso Enter hefyd. Mae'r bysellau mynediad ar gyfer y wefan yma yn seiliedig ar argymhellion llywodraeth y DU:
* S - Neidio llywio a mynd i'r cynnwys
* 1 - Tudalen gartref
* 3 - Tudalen map gwefan
* 4 - Chwilio mwy manwl
* 8 - Termau a ddefnyddir
* 0 - Hygyrchedd
* 9 - Cysylltwch â ni
* 2 - Cymru
* 5 - Argraffu’r dudalen hon
* 6 - E-bostio’r dudalen hon
I ddefnyddio bysellau mynediad ar eich PC (ble y caniateir), pwyswch y bysell Alt â’r bysell mynediad ac yna pwyswch Enter.
I ddefnyddio bysellau mynediad ar eich Mac (ble y caniateir), pwyswch y bysell Control â’r bysell mynediad.



