Adran y wasg
Mae un ar hugain o brosiectau a ariennir gan y Loteri o bob cwr o’r DU yn galw ar gefnogaeth y cyhoedd wrth iddynt fynd benben â’i gilydd yng nghyfnod terfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2010.
Mae’r Gwobrau yn gais blynyddol i ganfod hoff brosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri. Mae’r holl brosiectau dan sylw eisoes wedi derbyn arian y Loteri ac mae’r Gwobrau yn dathlu sut y maent wedi gwneud defnydd da ar yr arian hwnnw. Anogir y cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth trwy fwrw pleidlais i benderfynu pwy fydd yn ennill y teitl ym mhob un o’r saith categori.
Cefnogir Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni gan yr actores Fay Ripley, a fynychodd seremoni’r Gwobrau’r llynedd, a ddarlledwyd ar BBC One. Dywed: “Bob blwyddyn mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod yr effaith anhygoel y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri yn ei chael ar bobl a chymunedau ar draws y DU. Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £25 miliwn yr wythnos i gefnogi ystod eang o brosiectau. Mae’r holl brosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi gwneud mor dda i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, felly os gwelwch yn dda rhowch o’ch amser i ddangos eich cefnogaeth – mae pob pleidlais yn gwneud gwahaniaeth mawr!”
Ynglyn â Gwobrau’r Loteri Genedlaethol
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri – boed yn fawr neu’n fach – yn ei wneud i gymunedau, ac yn dathlu llwyddiannau’r bobl sydd y tu ôl iddynt. Mae saith categori i'r Gwobrau - pob un yn adlewyrchu agwedd ar ariannu'r Loteri: chwaraeon; treftadaeth; y celfyddydau; yr amgylchedd; addysg; iechyd (mewn cydweithrediad gyda iVillage.co.uk) a gwirfoddol/elusennol (mewn cydweithrediad gyda chylchgrawn Woman).
Cyhoeddir enillydd pob categori yn ystod digwyddiad Gwobrwyo yn llawn enwogion, a ddarlledir ar BBC ym mis Medi, ac fe'i cynhelir eleni yn Roundhouse yn Llundain, a ariennir gan y Loteri.
Bydd modd i'r cyhoedd bleidleisio yn y rownd derfynol rhwng 9am 26 Gorffennaf a hanner dydd 13 Awst. Am fanylion pellach ar y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, neu i fwrw’ch pleidlais, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards
- Diwedd -
Am wybodaeth bellach, cysyllter â:
Kelly Atkinson ar 020 7211 3996 / kelly.atkinson@lotterygoodcauses.org.uk
Jessica Cain ar 020 7211 3898 / jessica.cain@lotterygoodcauses.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yn ychwanegol at arian y Loteri y maent eisoes wedi’i dderbyn, bydd pob prosiect buddugol ym mhob un o’r saith categori yn derbyn gwobr ariannol o £2,000
- Gellir bwrw pleidlais hefyd trwy rifau ffôn dynodedig. Cost galwadau yw 5c o linell BT. Gallai galwadau o rwydweithiau eraill amrywio a bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol uwch. Cynghorir y galwyr i wirio gyda’u darparwr rhwydwaith ffôn er mwyn bod yn sicr ynghylch y gost. Ni fydd elw yn cael ei wneud o gost y bleidlais ffôn gan Uned Hyrwyddiadau’r Loteri Genedlaethol na’r Loteri Genedlaethol.
- Bydd yr holl bleidleisio yn cael ei farnu’n annibynnol a’i wirio gan y Gwasanaethau Diwygio Etholiadol.
- Am y drydedd flwyddyn yn olynol, noddir y categori gwirfoddol/elusennol gan gylchgrawn Woman. Woman yw prif wythnosolyn llawn amrywiaeth i fenywod. Mae’n cynnig cymysgedd fodern o newyddion enwogion, clecs diddorol o’r tu fewn i'r diwydiant teledu, straeon bywyd go iawn, ffasiwn a harddwch i gael corff hyderus, ac adran ffordd o fyw cyfredol i'r funud. Cyhoeddir Woman gan IPC Media
- Noddir y Prosiect Iechyd Gorau eleni gan iVillage.co.uk. iVillage.co.uk yw un o’r rhwydweithiau gwybodaeth ar-lein mwyaf blaenllaw i fenywod. Yn wefan i fenywod, mae’n canolbwyntio ar faterion sydd bwysicaf i fenywod ac yn cynnig gwasanaethau rhyngweithiol, cyngor arbenigol, gwybodaeth a rhwydwaith cymorth hanfodol
- Ers i'r Loteri ddechrau ym 1994, mae dros £24 biliwn wedi’i godi dros Achosion Da yng Nghymru gan chwaraewyr y Loteri a dros 340,000 o grantiau wedi'u dosbarthu ar draws y DU
- Am ragor o wybodaeth ar y Gwobrau neu brosiectau a ariennir gan y Loteri ewch i www.achosiondayloteri.org.uk
Rowndiau Cynderfynol
- Cynhaliwyd y cyfnod cynderfynol rhwng 1 – 18 Mehefin. Cafwyd cyfanswm o 70 o brosiectau yn y rowndiau cynderfynol – 10 ym mhob un o’r saith categori.
- Mae’r tri phrosiect ym mhob categori gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau wedi cyrraedd rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus
Rowndiau Terfynol
- Bydd cyfanswm o 21 o brosiectau yn y rowndiau terfynol – tri ym mhob un o’r saith categori. Gall y cyhoedd bleidleisio rhwng 9am ar 26 Gorffennaf a bydd unrhyw bleidlais a gaiff ei bwrw cyn hanner dydd ar 13 Awst yn cael ei chyfrif
- Dim ond un enillydd a fydd ym mhob categori. Cyhoeddir enillydd pob categori yn ystod digwyddiad Gwobrwyo, a ddarlledir ar BBC ym mis Medi, ac fe'i cynhelir eleni yn Roundhouse yn Llundain. Derbyniodd y Roundhouse arian y Loteri gan Arts Council England, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Loteri Fawr



