Adran y wasg
Mae’r pleidleisio cyhoeddus ar gyfer rowndiau cynderfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol bellach wedi cau. Bydd y tri phrosiect ym mhob categori a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn symud ymlaen i rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus, a gynhelir rhwng 26 Gorffennaf a 13 Awst. Dewch yn ôl yn fuan i weld pa brosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn gais blynyddol i ganfod hoff brosiectau a ariennir gan y Loteri yn y DU. Mae’r holl brosiectau eisoes wedi derbyn arian y Loteri ac mae’r Gwobrau yn dathlu sut maent wedi gwneud defnydd da ar yr arian hwnnw. Anogwyd y cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth trwy fwrw pleidlais a helpu'r sefydliadau i gyrraedd cyfnod terfynol y Gwobrau.
Bydd y prosiect buddugol ym mhob un o’r saith categori yn derbyn cydnabyddiaeth ar sioe deledu BBC1 yn llawn sêr yn ddiweddarach eleni ac, yn ychwanegol at arian y Loteri maent eisoes wedi'i dderbyn, byddant yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 [1] i wario ar eu prosiect.
Gwybodaeth am Wobrau’r Loteri Genedlaethol
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri - boed yn fawr neu’n fach - yn ei wneud i gymunedau lleol, ac yn dathlu llwyddiannau’r bobl y tu ôl iddynt. Mae saith categori i'r Gwobrau - pob un yn adlewyrchu maes ar arian y Loteri: chwaraeon; treftadaeth; y celfyddydau; yr amgylchedd; addysg; iechyd (mewn cydweithrediad gydag iVillage.co.uk) a gwirfoddol/elusennol (mewn cydweithrediad gyda chylchgrawn Woman).
Cystadlodd deg prosiect ym mhob categori ar gyfer y rownd gynderfynol. Bydd y tri phrosiect ym mhob categori â’r nifer uchaf o bleidleisiau yn mynd trwodd i rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus ym mis Gorffennaf.
[1] Sylwer: Nid grant y Loteri yw hwn.
-Diwedd-
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Jessica Cain: 020 7211 3991 neu jessica.cain@lotterygoodcauses.org.uk



