Adran y wasg

PROSIECTAU’R LOTERI O GYMRU ANGEN EICH PLEIDLAIS
01/06/2010

Mae chwech o brosiectau o Gymru angen eich pleidlais yr wythnos hon wrth iddynt fynd benben â sefydliadau eraill a ariennir gan y Loteri o bob cwr o’r DU yn rowndiau cyn-derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2010.

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn gais blynyddol i ganfod holl brosiectau a ariennir gan y Loteri yn y DU. Mae’r holl brosiectau sy'n cystadlu eisoes wedi derbyn arian y Loteri ac mae’r Gwobrau yn dathlu sut maent wedi gwneud defnydd da ar yr arian hwnnw. Anogir pobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth trwy fwrw eu pleidlais i helpu sefydliadau lleol i gyrraedd y rownd derfynol.

Y prosiectau o Gymru yn y rownd gynderfynol yw*:

  • Clwb Nofio Anabl Barry Beavers, Bro Morgannwg – yn cystadlu am y Prosiect Chwaraeon Gorau
  • Gwasanaethau Cam-drin Domestig Blaenau Gwent, Blaenau Gwent - yn cystadlu am y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau
  • Prosiect Sgiliau Bywyd Sir Gaerfyrddin Turning Point Cymru, Sir Gaerfyrddin – yn cystadlu am y Prosiect Iechyd Gorau
  • Cynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix, De Powys – yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau
  • SBARC!, Gwynedd – yn cystadlu am y Prosiect Celfyddydau Gorau
  • Y Ganolfan Ddysgu Gymunedol, Torfaen – yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau

 Bydd y prosiect buddugol ym mhob un o’r saith categori yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ar sioe deledu BBC1 yn llawn enwogion yn ddiweddarach eleni ac, yn ychwanegol at arian y Loteri y maent eisoes wedi’i dderbyn, byddant yn derbyn gwobr ariannol[1] o £2,000 i wario ar eu prosiect.

Cefnogir Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni gan yr actores Fay Ripley, a fynychodd seremoni’r Gwobrau'r llynedd, a ddarlledwyd ar BBC1. Dywed: “Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £25 miliwn yr wythnos, sy’n ariannu prosiectau a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ar draws Cymru a gweddill y DU. Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod talent ryfeddol a gwaith caled y bobl sy’n gysylltiedig â chynnal prosiectau a ariennir gan y Loteri, felly cefnogwch eich prosiect lleol a phleidleisiwch drostynt.”

 Gwybodaeth ar Wobrau’r Loteri Genedlaethol

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri – boed yn fawr neu’n fach – yn ei wneud i gymunedau lleol, ac yn dathlu llwyddiannau’r bobl sydd y tu ôl iddynt. Mae saith categori i'r Gwobrau - pob un yn adlewyrchu agwedd ar ariannu'r Loteri: chwaraeon; treftadaeth; y celfyddydau; yr amgylchedd; iechyd (mewn cydweithrediad gyda iVillage.co.uk) a gwirfoddol/elusennol (mewn cydweithrediad gyda chylchgrawn Woman).

 Mae pleidleisio yn y rowndiau cyn-derfynol yn dechrau am 9am Ddydd Mawrth 1 Mehefin ac yn cau hanner dydd Dydd Gwener 18 Mehefin. Am wybodaeth bellach neu i bleidleisio ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards

 Y tri phrosiect ym mhob categori gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau a fydd yn cyrraedd rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus ym mis Gorffennaf.

-Diwedd-

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Jackie Aplin ar 029 20678278/07917 791873 neu jackie.aplin@lotterygoodcauses.org.uk

Sarah McKenna ar 0141 242 1414/07825 823945 neu sarah.mckenna@lotterygoodcauses.org.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

*Am wybodaeth bellach ar brosiectau o Gymru sydd wedi cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol a’r rhifau pleidleisio:

 

Clwb Nofio Anabl Barry Beavers, Bro Morgannwg – yn cystadlu am y Prosiect Chwaraeon Gorau  Wedi’i leoli yng Nghanolfan Hamdden y Barri, mae The Barry Beavers yn glwb ymwybyddiaeth dwr sy'n anelu at sicrhau bod yr holl aelodau yn hapus yn y dwr ac yn rhoi'r cyfle iddynt ddysgu nofio. Gyda help arian y Loteri, mae’r clwb wedi gallu mynd â nofwyr anabl i galas mewn bysys addas i gadeiriau olwyn, i bob rhan o Gymru. Mae’r Clwb hefyd wedi defnyddio grant y Loteri i hyfforddi cynorthwywyr arbennig a chynnal eu galas nofio eu hunain.   Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan Arian i Bawb.  Er mwyn pleidleisio dros Barry Beavers ffoniwch 0844 6865344 neu ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards.

 

Gwasanaethau Cam-drin Domestig Blaenau Gwent, Blaenau Gwent - yn cystadlu am y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau.  Mae Gwasanaethau Cam-drin Domestig Blaenau Gwent yn cynnig ystod o gefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un yn y rhanbarth sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig.  Cynigir hyn trwy gymorth emosiynol a rhaglenni grwp yn cynnwys ymlacio ac aciwbigo, gyda ffocws amlwg ar ddiogelwch cleientiaid drwyddi draw. Mae arian y Loteri wedi helpu’r sefydliad i gyflogi mwy o staff i gefnogi pobl ym Mlaenau Gwent. Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan y Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Chwaraeon Cymru.  Er mwyn pleidleisio dros Wasanaeth Cam-drin Domestig Blaenau Gwent ffoniwch 0844 6865256 neu ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards

 

Prosiect Sgiliau Bywyd Sir Gaerfyrddin Turning Point Cymru, Sir Gaerfyrddin - yn cystadlu am y Prosiect Iechyd Gorau   Mae Prosiect Sgiliau Bywyd Sir Gaerfyrddin Turning Point Cymru yn cefnogi pobl sydd wedi’u cymell ac sy’n ymroddedig i oresgyn eu problemau alcohol cronig ac eisiau gweddnewid eu bywydau. Trwy’r gweithdai sgiliau bywyd, rheoli dicter, sesiynau hyfforddi a chyflogaeth a chyngor, mae staff yn helpu aelodau CLSP i bontio'r bwlch rhwng gadael gwasanaethau dadwenwyno ac ailymuno â’r gymuned. Mae arian y Loteri wedi golygu bod y grwp wedi gallu datblygu ei wasanaethau trwy gyflogi staff hyfforddedig a hefyd wedi talu am 'Brosiect Tyfu', rhaglen arddwriaethol sy'n annog pobl i fynd allan i'r awyr iach, tyfu eu llysiau eu hunain a gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach.  Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan y Gronfa Loteri Fawr.  Er mwyn pleidleisio dros Brosiect Sgiliau Bywyd Sir Gaerfyrddin Turning Point Cymru ffoniwch 0844 6869317 neu ewch  i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards

 

Cynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix, De Powys - yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau.  Mae Cynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix yn anelu at leihau gwastraff tirlenwi trwy gasglu hen ddodrefn a nwyddau gwyn, megis oergelloedd, peiriannau golchi ac eitemau trydanol, a sicrhau eu bod ar gael i bobl yn Ne Powys sydd ar incymau isel ac na allant fforddio prynu eitemau o'r fath eu hunain. Mae arian y Loteri wedi galluogi i'r cynllun sefydlu’n well, gyda system TG newydd i gofnodi stoc a manylion cwsmeriaid, ynghyd â chaniatáu iddynt brynu dau hen focs lori i'w defnyddio fel gofod storio ychwanegol a mwy o gyfarpar swyddfa ar gyfer y ddau safle. Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan y Gronfa Loteri Fawr ac Arian i Bawb.  Er mwyn pleidleisio dros Gynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix ffoniwch 0844 6867838 neu ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards

 

SBARC!, Gwynedd - yn cystadlu am y Prosiect Celfyddydau Gorau.  Bellach yn eu degfed flwyddyn, mae SBARC! yn brosiect celfyddydau ar gyfer pobl ifanc wedi’i leoli yn y Galeri, Caernarfon. Mae dosbarthiadau drama wythnosol ynghyd ag Ysgol Roc yn rhoi pwyslais ar roi cyfle i bobl ifanc berfformio yn gyhoeddus a dysgu sgiliau newydd. Mae arian y Loteri wedi caniatau i'r grwp logi gofod hyfforddi ac ymarfer addas a chyflogi tiwtoriaid arbenigol lleol o'r safon uchaf. Mae'r grant wedi caniatáu i SBARC! hefyd ddatblygu ac ehangu ar eu rhaglen o weithdai ac yn cynnwys meysydd newydd megis cyfrwng digidol a pherfformio arbrofol.  Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  Er mwyn pleidleisio dros SBARC! ffoniwch 0844 6868047 neu ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards.

 

Y Ganolfan Ddysgu Gymunedol, Torfaen - yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau  Agorodd y Ganolfan Ddysgu Gymunedol ym Mhen-y-garn i'r gymuned ym mis Mehefin y llynedd, a hyd yma mae tua 20,000 o bobl wedi ymweld a mwynhau ystod y gweithgareddau dan do ac awyr agored sydd ar gael. Defnyddiwyd grantiau gan y Loteri i adeiladu’r ‘caban pren’ a hefyd sicrhau bod y prosiect mor wyrdd â phosibl, gan gynnwys cael to estyllod, gwres geothermol a system ar gyfer cynhaeafu dwr glaw.  Derbyniodd y prosiect arian y Loteri gan y Gronfa Loteri Fawr.  Er mwyn pleidleisio dros Ganolfan Dysgu Gymunedol ffoniwch 0844 6865997 neu ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards

 

  • Cost galwadau o linell ffôn BT yw 5c. Gallai galwadau o rwydweithiau eraill amrywio a bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol uwch. Cynghorir y galwyr i wirio gyda’u darparwr rhwydwaith ffôn er mwyn bod yn sicr ynghylch y gost. Ni fydd Uned Hyrwyddiadau’r Loteri Genedlaethol na’r Loteri Genedlaethol yn gwneud elw o gost y bleidlais ffôn
  • Bydd yr holl bleidleisio yn cael ei farnu’n annibynnol a’i wirio gan y Gwasanaethau Diwygio Etholiadol
  • Am y drydedd flwyddyn yn olynol, noddir y categori gwirfoddol/elusennol gan gylchgrawn Woman. Woman yw prif wythnosolyn llawn amrywiaeth i fenywod. Mae’n cynnig cymysgedd fodern o newyddion enwogion, clecs diddorol o’r tu fewn i'r diwydiant teledu, straeon bywyd go iawn, ffasiwn a harddwch i gael corff hyderus, ac adran ffordd o fyw cyfredol i'r funud.  Cyhoeddir Woman gan IPC Media
  • Noddir y Prosiect Iechyd Gorau eleni gan iVillage.co.uk.  iVillage.co.uk yw un o’r rhwydweithiau gwybodaeth ar-lein mwyaf blaenllaw i fenywod. Yn wefan i fenywod, mae’n canolbwyntio ar faterion sydd bwysicaf i fenywod ac yn cynnig gwasanaethau rhyngweithiol, cyngor arbenigol, gwybodaeth a rhwydwaith cymorth hanfodol
  • Ers i'r Loteri ddechrau ym 1994, mae dros £1 biliwn wedi’i godi dros Achosion Da yng Nghymru a dros 340,000 o grantiau wedi'u dosbarthu ar draws y DU
  • Am ragor o wybodaeth ar y Gwobrau neu brosiectau a ariennir gan y Loteri ewch i www.achosiondayloteri.org.uk

 

Rowndiau Cyn-derfynol

  • Mae cyfanswm o 70 o brosiectau yn y rowndiau cyn-derfynol – 10 ym mhob un o’r saith categori. Gall y cyhoedd bleidleisio o 9am ar 1 Mehefin a bydd unrhyw bleidlais a chaiff ei bwrw cyn hanner dydd ar 18 Mehefin yn cael ei chyfrif
  • Y tri phrosiect ym mhob categori gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau a fydd yn cyrraedd rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus

Rowndiau Terfynol

  • Bydd cyfanswm o 21 o brosiectau yn y rowndiau terfynol – tri ym mhob un o’r saith categori. Gall y cyhoedd bleidleisio o 9am ar 26 Gorffennaf a bydd unrhyw bleidlais a chaiff ei bwrw cyn hanner dydd ar 13 Awst yn cael ei chyfrif
  • Dim ond un enillydd a fydd ym mhob categori. Cyhoeddir y saith enillydd yn ystod rhaglen deledu arbennig ar BBC1 a ddarlledir yn ddiweddarach eleni.

 


[1] SYLWER: Nid grant y Loteri yw hwn.