Adran y wasg

DATHLU CYMHELLIANT YNG NGHYMRU
25/02/2010

DYDD IAU 25/02/10: Heddiw bydd yr athletwr a'r sylwebydd Colin Jackson yn lansio rhan Cymru yn nhaith Chwarae'r Bêl dros Brydain y Loteri Genedlaethol  i ddathlu'r pethau gwych a llawn dychymyg y mae pobl Cymru yn eu gwneud gydag arian y Loteri i gefnogi doniau, elusennau a chymunedau ar hyd a lled y wlad.

Bydd prosiectau a ariannwyd  gan y Loteri'n ymuno â Colin yn Heol y Frenhines y bore 'ma. Bydd dawnswyr stryd Urban Circle; drymwyr Valleys Kids;lwb Achub Bywydau a Syrffio Aberafan ac aelodau Construction Youth Trust yn ei herio i droi ei law at y gweithgareddau y byddant yn eu dangos i'r cyhoedd. achubwyr bywyd C

Yr wythnos hon bydd Taith Chwarae'r Bêl dros Brydain y Loteri Genedlaethol yn ymweld â rhai o'r prosiectau yng Nghymru sydd wedi elwa o'r 27,000 o grantiau a ddosbarthwyd gan y Loteri dros y 15 mlynedd diwethaf. Bob wythnos mae chwaraewyr y Loteri'n codi £25 miliwn at achosion da ac mae miloedd o bobl ledled Cymru wedi bod yn defnyddio arian gan y Loteri, yn ogystal â swm enfawr o waith caled ac ymroddiad, i wneud gwahaniaeth mawr i bobl a lleoedd yn eu cymunedau.

Fel yr esbonia Colin Jackson, "Mae gweld y prosiectau yma heddiw wedi bod yn wych. Rwy'n hynod falch o bobl Cymru am wneud defnydd cystal o'r arian y maent wedi'i dderbyn gan y Loteri. Yn benodol cefais fy synnu gan nifer y prosiectau sy'n cefnogi plant difreintiedig ac sydd, yn bwysicaf oll, yn rhoi ffocws iddynt,."

Mae Luke Belmont, bellach yn 21 oed, yn un o'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi cael budd o'r prosiectau a ariannwyd gan y Loteri. Mae Luke wedi bod yn mynychu cyrsiau'r Construction Youth Trust yng Nghasnewydd dros y 18 mis diwethaf i ddysgu sgiliau gwaith coed ac adeiladu, gan olygu ei fod wedi cael swydd gyda Phartneriaeth Penrhys: "Cyn i mi ymgymryd â chymhwyster gwaith coed y Rhwydwaith Coleg Agored (OCN) gyda Construction Youth Trust, nid oedd gennyf unrhyw gymwysterau ac nid oedd gennyf ddiddordeb mewn dysgu. Treuliais fy holl amser yn lolian gyda ffrindiau a chwarae gemau cyfrifiadurol. Ar y cwrs dysgais lawer o sgiliau newydd y gwnaethant fy helpu i fagu hunanhyder,  gan arwain at awydd i ddysgu.

"Ar ôl cymryd rhan mewn ychydig o gyrsiau rhagflas eraill mewn plastro, gosod teils ac  ati, cefais fy annog i wirfoddoli. Yn sgil hynny cefais swydd ac rwy'n mwynhau rhoi fy sgiliau ar waith. Hwn yw dechrau fy mywyd gwaith a hoffwn ddiolch i chwaraewyr y Loteri a Construction Youth Trust am yr holl gymorth a chefnogaeth maent wedi'u rhoi i mi. Heb hynny, mae'n debygol y byddwn yn dal i fod yn ddi-waith."

Mae dros £1 biliwn o arian y Loteri wedi'i ddyfarnu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a phrosiectau amgylcheddol  yng Nghymru ers i'r Loteri ddechrau ym 1994.  Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.achosiondayloteri.org.uk/britainhasballs/wales/

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

jackie.aplin@lotterygoodcauses.org.uk / 02920 678278 / 07917 791873

Nodiadau i olygyddion:

Prosiectau a ariennir gan y Loteri sy'n cymryd rhan yn nigwyddiad Caerdydd:

  • Urban Circle - Sefydliad cynhwysol dan arweinyddiaeth pobl ifanc sy'n hybu ac yn cynnal cydberthnasau cymunedol cadarnhaol drwy annog pobl ifanc yng Nghasnewydd i arddangos eu doniau er budd cymunedau lleol. Mae wedi derbyn dros £235,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.
  • Elusen Valleys Kids - yn gweithio i newid bywydau pobl er gwell yn Ne Cymru drwy chwaraeon, y celfyddydau a pherfformio. Mae wedi derbyn nifer o grantiau gan y Gronfa Loteri Fawr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chyfanswm o dros £2 filiwn ers 1995.
  • Construction Youth Trust - yn cefnogi ac yn ysbrydoli pobl ifanc i fanteisio ar hyfforddiant a chyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae wedi derbyn dros £350,000 gan y Gronfa Loteri Fawr ac Arian i Bawb.
  • Clwb Achub Bywydau a Syrffio Aberafan - yn patrolio traethau lleol ac mae wedi achub bywydau diolch i sgiliau ei aelodau. Mae wedi derbyn dros £170,000 gan Gyngor Chwaraeon Cymru

Ffeithiau am arian y loteri efallai na fyddwch yn gwybod amdanynt:

  • Mae bron i £10 miliwn o arian gan y Loteri wedi'i roi ar gyfer ailddatblygu canolfannau'r celfyddydau, orielau a theatrau ar draws Cymru, gan drawsnewid ac adfywio llawer o gymunedau yng Nghymru
  • Diolch i arian gan y Loteri, mae dros £45 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn tir a phrosiectau bioamrywiaeth yng Nghymru, gan ddiogelu ardal o faint dros 1,300 o gaeau rygbi
  • Mae mwy na £35 miliwn o arian gan y Loteri wedi'i ddyfarnu i brosiectau sy'n dathlu treftadaeth ddiwydiannol Cymru megis y Pwll Mawr ym Mlaenafon
  • Mae £50 miliwn o arian gan y Loteri wedi'i fuddsoddi mewn adnewyddu ac adeiladu cyfleusterau Addysg Gorfforol a chwaraeon i ysgolion a chymunedau ar draws Cymru
  • Mae arian gan y loteri yn rhan ganolog o lwyddiannau chwaraeon y DU, gan helpu llawer o arwyr y byd chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys medalydd aur Cymru, y beiciwr Nicole Cooke. At ei gilydd, mae athletwyr Prydain wedi ennill 437 o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd ers i arian y Loteri ddechrau, gyda Gemau Olympaidd Beijing yn dod â'r doreth orau o fedalau am 100 mlynedd
  • Mae dros hanner holl grantiau'r Loteri yn llai na £5,000, gan helpu prosiectau i wneud gwahaniaeth mawr.