Adran y Cyfryngau
> Newyddion > 2011 > Y LOTERI GENEDLAETHOL A SYR MATTHEW PINSENT YN CYFLWYNO 'DOSBARTH 2012'Y LOTERI GENEDLAETHOL A SYR MATTHEW PINSENT YN CYFLWYNO 'DOSBARTH 2012'

Daeth athletwyr sy'n gobeithio cystadlu ar dir cartref y flwyddyn nesaf at ei gilydd gydag un o athletwyr gorau erioed y Gemau Olympaidd i ail-greu llun ysgol i gynrychioli 'Dosbarth 2012' y Loteri Genedlaethol.
Ers i arian y Loteri ddechrau ym 1994, mae 438 o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd wedi'u hennill gan athletwyr o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Loteri Genedlaethol hefyd yn buddsoddi £2.2 biliwn yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 ac mae chwaraewyr y Loteri yn galluogi i 1,200 o athletwyr elit i hyfforddi i'r safonau rhyngwladol uchaf.
Heddiw fe wnaeth y Pennaeth Syr Matthew Pinsent groesawu'r athletwyr gan roi araith ysbrydoledig iddynt yn Ysgol y Ddinas eiconig yn Llundain, sy'n ymffrostio mewn neuadd ysgol hanesyddol ble cafodd llun y dosbarth ei greu.
Dywedodd yr arwr rhwyfo, "Mae'n anrhydedd i mi allu dathlu buddsoddiad y Loteri Genedlaethol gyda'r athletwyr talentog hyn sy'n gobeithio disgleirio'r flwyddyn nesaf. Beijing 2008 oedd ein Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed ac rwy'n ffyddiog y gall ein hathletwyr cyfredol wneud hyd yn oed yn well yn Llundain. Mae'r Loteri wirioneddol wedi bod yn gatalydd am newid yn llwyddiant chwaraeon Prydain. Mae arian y Loteri wedi cael effaith aruthrol ar bob lefel o chwaraeon, gan weddnewid parciau a chyfleusterau chwaraeon a chaniatáu i glybiau lleol i ffynnu ar draws y DU."
Dywedodd medalydd Aur Paralympaidd, y nofiwr Liz Johnson o Gasnewydd, “Diolch i chwaraewyr y Loteri, rydym yn paratoi ar gyfer yr arholiadau mwyaf yn ein gyrfaoedd chwaraeon. Roedd hi'n wych clywed drosom ein hunain am brofiadau Syr Matthew Pinsent yn y Gemau Olympaidd; rydym wedi cael gwers ysbrydoledig yma heddiw.”
Bydd pencampwr saethyddiaeth y Gemau Gymanwlad Danielle Brown yn edrych i amddiffyn ei theitl Paralympaidd os bydd yn cael ei dewis ar gyfer ParalympicsGB a dywedodd, “Hoffwn i chwaraewyr y Loteri sylweddoli sut y mae eu harian wedi gwireddu ein huchelgeisiau chwaraeon. Mae fy holl gyd-ddisgyblion yn benderfynol o sicrhau bod chwaraewyr y Loteri yn falch o Ddosbarth 2012."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi £27 biliwn ar gyfer Achosion Da ers i'r Loteri ddechrau ym 1994. Mae dros £6 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn chwaraeon.
Am wybodaeth bellach ar arian y Loteri Genedlaethol, ewch i www.achosiondayloteri.org.uk
-Diwedd-
Am wybodaeth a delweddau'r cyfryngau, cysylltwch â Fast Track:
Kate Silvers: 07789 544048 / kate.silvers@fasttrackagency.com
Amelie Hawkins: 07768 293480 / amelie.hawkins@fasttrackagency.com
Neu Uned Hyrwyddiadau'r Loteri Genedlaethol:
Michael Thompson: 0207 2113894 / 07734 295745 michael.thompson@lotterygoodcauses.org.uk
Yr athletwyr sy'n gysylltiedig â llun Dosbarth 2012 yw:
Pennaeth Syr Matthew Pinsent Enillydd Pedair Medal Aur Olympaidd
Chwaraeon Olympaidd
Dwr: Plymio Peter Waterfield (Southampton) 2004 Medalydd Arian y Gemau Olympaidd
Dwr: Nofio Xander Alari-Williams (Caint) 2010 Pencampwr Ieuenctid Cenedlaethol
Saethyddiaeth Mark Nesbitt (Banbridge, GI) 2008 Pencampwr Olympaidd Ieuenctid Dwbl
Athletau: Trac Marlon Devonish (Coventry) 2004 Pencampwr Ras Gyfnewid 4x100m Olympaidd
Athletau : Maes Chris Tomlinson (Middlesboro’) 2008 Medalydd Arian Dan Do'r Byd
Badminton Gabby White (Leeds) Medalydd Efydd Gemau'r Gymanwlad 2010
Pêl-fasged Sarah Mackay (Llundain) Chwaraewyr Rhyngwladol Prydain Fawr
Pêl Foli'r Traeth Lucy Boulton (Caerfaddon) 2011 4ydd Safle Digwyddiad Prawf Olympaidd
Paffio Anthony Joshua (Llundain) 2011 Medalydd Arian y Byd
Gwibiad Canw Jess Walker (High Wycombe) 2008 Pencampwr Iau Ewrop
Beicio David Fletcher (Nottinghamshire) 2007 Medalydd Efydd Iau'r Byd
Marchogaeth: Dressage Laura Bechtoltsheimer (Swydd Gaerloyw) 2010 Medalydd Arian Marchogaeth y Byd
Marchogaeth: Cystadleuaeth Tair Camp Tina Cook (Sussex) 2010 Medalydd Aur Gemau Marchogaeth y Byd
Pêl-droed Kieran Gibbs (Llundain) Clwb Pêl-droed Arsenal a Chwaraewr Rhyngwladol Lloegr
Cleddyfaeth Laurence Halsted (Llundain) 2008 Medalydd Ewrop
Gymnasteg: Artistig Rebecca Downie (Nottingham) 2008 Rownd Derfynol Olympaidd
Gymnasteg: Rhythmig Mimi Cesar (Birmingham) Rhif Dau Prydain Fawr
Gymnasteg: Tramplin Kat Driscoll (Caint) 2011 Rownd Derfynol y Byd, Rhif Un Prydain Fawr
Pêl-law Ciaran Williams (Manceinion) Capten Tîm Dynion Prydain Fawr
Hoci Helen Richardson (Reading) 2010 Medalydd Efydd Cwpan y Byd
Jiwdo Colin Oakes (Norfolk) 2011 Medalydd Efydd Pencampwriaeth Ewrop
Pentathlon Modern Freyja Prentice (Dorset) 2010 Medalydd Arian Cwpan y Byd
Rhwyfo Caroline O’Connor (Rhydychen) 2011 Medalydd Efydd Pencampwr y Byd
Hwylio Stephen Milne (Ballyhome, GI) 2008 Cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd
Saethu Peter Wilson (Llundain) 2011 Medalydd Aur Cwpan y Byd
Tenis Bwrdd Kelly Sibley (Sheffield) Rhif Un ym Mhrydain Fawr
Taekwondo Michael Harvey (Manceinion) 2011 Medalydd Arian y Byd
Tennis Elena Baltacha (Ipswich) Rhif Un Prydain Fawr
Triathlon Vicky Holland (Pen-y-bont) Chweched: 2010 Rownd Derfynol Pencampwriaethau'r Byd ITU
Pêl Foli Matt Howe (Sheffield) Chwaraewr Rhyngwladol Cyfredol Prydain Fawr
Codi Pwysau Zoe Smith (Leeds) 2010 Medalydd Efydd Gemau'r Gymanwlad
Ymgodymu Leon Rattigan (Manceinion) 2010 Medalydd Efydd Gemau'r Gymanwlad
Chwaraeon Paralympaidd
Saethyddiaeth Danielle Brown (Telford) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Athletau Dan Greaves (Caerlyr) 2004 Medalydd Efydd Paralympaidd
Boccia David Smith (Abertawe) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Beicio David Stone (Leeds) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd Dwbl
Marchogaeth Natasha Baker (Uxbridge) 2010 Medalydd Aur Ewropeaidd
Pêl-droed 5 bob ochr Dave Clarke (Harpenden) 2010 Esgid Euraid Pencampwriaeth Ewrop
Pêl-droed 7 bob ochr Martin Sinclair (Caerfaddon) 2010 Pencampwr y Byd
Pêl-gôl Simon Goodall (Wokingham) Chwaraewr Rhyngwladol Cyfredol Prydain Fawr
Jiwdo Ben Quilter (Dartford) 2011 Medalydd Aur Ewropeaidd ar gyfer y Rhai â Nam ar eu Golwg
Codi Pwer Adam Alderman (Essex) Rhif Un Prydain Fawr
Rhwyfo Tom Aggar (Maidenhead) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Hwylio David Sandles (Wiltshire) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Saethu Matthew Skelhon (Stilton) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Nofio Liz Johnson (Casnewydd) 2008 Medalydd Aur Paralympaidd
Tennis Bwrdd Will Bayley (Sheffield) Rhif Dau'r Byd
Pêl Foli Eistedd Charlie Walker (Aylesbury) Chwaraewr Rhyngwladol Cyfredol Prydain Fawr
Pêl-fasged Cadair Olwyn Terry Bywater (Middlesbrough) 2011 Medalydd Aur Ewropeaidd
Cleddyfaeth Cadair Olwyn Craig McCann (Swydd Efrog) Rhif Dau Prydain Fawr Cyfredol
Rygbi Cadair Olwyn Aaron Phipps (Southampton) 2011 Medalydd Arian Ewropeaidd
Tennis Cadair Olwyn Andrew Lathorne (Eastcote) Rhif Pedwar yn y Byd
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae lluniau Dosbarth 2012 y Loteri Genedlaethol yn dathlu buddsoddiad y Loteri Genedlaethol yn chwaraeon llawr gwlad, cymunedol ac elit a buddsoddiad o £2.2 biliwn yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
- Mae hyd at £2.2 biliwn o arian y Loteri yn cael ei fuddsoddi mewn lleoliadau ac isadeiledd ar gyfer Llundain 2012, ynghyd â chefnogi tua 1,200 o athletwyr elit i elwa o hyfforddiant a chefnogaeth o safon fyd-eang.
- Mae arian y Loteri hefyd yn cael ei ddefnyddio i ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol o athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd trwy uwchraddio clybiau a chyfleusterau chwaraeon lleol, cefnogi pobl leol i arwain a threfnu gweithgareddau chwaraeon lleol a chynnig cyfleoedd i fwy o bobl fwynhau chwaraeon.
- Y Loteri Genedlaethol yw prif gyllidwr yr Olympiad Diwylliannol a Gwyl Llundain 2012, a fydd yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu a chael eu hysbrydoli gan y Gemau trwy'r celfyddydau a digwyddiadau diwylliannol mewn cymunedau lleol.
- Mae arian y Loteri Genedlaethol i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn cael ei ddyfarnu trwy Ddosbarthwr y Loteri Olympaidd, UK Sport, Sport England, Arts Council England, Legacy Trust UK, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council of Northern Ireland, Sport Scotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland.
- Mae £30 miliwn yn cael ei gynhyrchu gan y Loteri Genedlaethol dros Achosion Da bob wythnos.
