Cyhoeddi enillwyr Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011 yn fyw ar BBC One

07/11/2011

Fe gurodd y saith enillydd gannoedd o brosiectau o bob cwr o'r DU i ennill teitl mawreddog hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri yn y digwyddiad, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC One.

 

Mae saith categori i'r Gwobrau, pob un yn adlewyrchu maes ariannu'r Loteri. Enillwyr lwcus Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011 yw:

 

  • Prosiect Celfyddydau Gorau: Northern Ballet and Phoenix Dance Theatre, Leeds
  • Prosiect Addysg Gorau (mewn cydweithrediad â chylchgrawn Best):
    Include Duchenne, ledled y DU
  • Prosiect Amgylcheddol Gorau: The Green Valley Centre, Bryncynon
  • Prosiect Iechyd Gorau (mewn cydweithrediad â iVillage.co.uk): Sense Scotland, ledled yr Alban
  • Prosiect Treftadaeth Gorau: We Were Brothers: WW1 A Shared Heritage, Derry
  • Prosiect Chwaraeon Gorau: The Bluebird Care Hampshire Disability Cricket Programme
  • Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau: Hands That Talk, Derry

 

Fe wnaeth cynrychiolwyr o bob un o'r 22 prosiect yn y rownd derfynol gymysgu gydag enwogion yn nigwyddiad y gwobrau a oedd yn llawn enwogion eleni, gan gynnwys y cyflwynydd Myleene Klass a gwesteion enwog arbennig Ashley Banjo a Perri Kiely o Diversity, Laila Rouass o Holby City, Hilary Devey o Dragons Den, Dr. Pamela Stephenson a'r Athro Robert Winston.  Cafodd ffilm fer ar y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ei darlledu yn ystod y rhaglen arbennig ar BBC One.

 

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Myleene Klass: "Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos dros brosiectau mawr a bach ar draws y DU.  Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ffordd wych o ddathlu'r gwaith caled aruthrol sy'n mynd at sicrhau llwyddiant y prosiectau hyn.  Mae'r holl rai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau bob dydd gyda'u harian y Loteri.”

 

Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ymgyrch flynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri.  Roedd yr holl brosiectau a gystadlodd yn y gystadleuaeth eisoes wedi derbyn arian y Loteri ac mae'r Gwobrau yn cydnabod y gwahaniaeth y mae'r prosiectau hyn yn ei wneud i gymunedau lleol, ac yn dathlu llwyddiannau'r bobl sydd y tu ôl iddynt. Am ragor o wybodaeth ar y Gwobrau a'r enillwyr ar draws y saith categori ewch i www.achosiondayloteri.org.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

 

  • Ers i'r Loteri ddechrau ym 1994, mae dros £26 miliwn wedi'i godi dros Achosion Da gan chwaraewyr y Loteri a dros 370,000 o grantiau wedi'u dosbarthu ar draws y DU.  Am wybodaeth bellach, ewch i www.achosiondayloteri.org.uk

 

  • Yn ychwanegol at arian y Loteri sydd eisoes wedi'i dderbyn, mae'r prosiect buddugol ym mhob un o'r saith categori yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 i'w wario ar eu prosiect

 

  • Cafodd y pleidleisio ei feirniadu a'i wirio yn annibynnol gan y Gwasanaethau Diwygio Etholiadol

 

  • Lansiwyd Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011 ym mis Ionawr eleni, ac fe gystadlodd dros 800 o brosiectau a ariennir gan y Loteri. Fe wnaeth panel annibynnol o feirniaid ddethol rhestr fer o ddeg prosiect fesul categori a gystadlodd wedyn mewn dau gylch pleidlais gyhoeddus:

 

Rowndiau Cynderfynol

  • Cynhaliwyd y cyfnod cynderfynol rhwng 31 Mai - 20 Mehefin.  Cafwyd cyfanswm o 70 prosiect yn y rowndiau cynderfynol - 10 ym mhob un o'r saith categori
  • Aeth y tri phrosiect â'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori i rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus, ac eithrio'r categori Celfyddydau, ble'r oedd dau brosiect yn gyfartal ac felly aeth pedwar prosiect trwodd i'r rownd derfynol

 

Rownd derfynol

  • Cynhaliwyd y cyfnod pleidleisio terfynol rhwng 2 Medi - 26 Medi. Cafwyd cyfanswm o 22 prosiect yn y rownd derfynol - tri o fewn chwe chategori a phedwar yn un categori
  • Dim ond un enillydd sydd ym mhob categori. Cyhoeddwyd y saith enillydd yn ystod y sioe, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC One ar 5 Tachwedd
  • Cynhaliwyd y digwyddiad yn The London Studios

 

 

Rhestrir y prosiectau a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011 isod:

 

Enillydd y Prosiect Celfyddydau Gorau: Northern Ballet and Phoenix Dance Theatre, Leeds

Ail: The Smiling Sessions, Waltham Forest

                   mac Birmingham

Razed Roof: Inclusion Through Practice, Harlow

 

Enillydd y Prosiect Addysg Gorau

(mewn cydweithrediad â chylchgrawn Best): Include Duchenne, ledled y DU

Ail: Windmills Cafe, Lanarkshire

                   Community Horticultural Enterprise, Derry

 

Enillydd y Prosiect Amgylcheddol Gorau: The Green Valley Centre, Bryncynon

Ail: Open Air Laboratories Network (OPAL), ledled Lloegr

                             Brighter Future Workshop, Swydd Gaerhirfryn

 

Enillydd y Prosiect Iechyd Gorau

(mewn cydweithrediad â iVillage.co.uk):  Sense Scotland

Ail: Altogether Better Programme, Swydd Efrog a Humber

                   Surf Action CIC, Cernyw

 

Enillydd y Prosiect Treftadaeth Gorau: We Were Brothers: WW1 A Shared Heritage, Derry

Ail: Wentworth Castle (Trust) & Stainborough Park, Ger Barnsley

                   Unfolding the Quilts, Caerefrog

 

Enillydd y Prosiect Chwaraeon Gorau: The Bluebird Care Hampshire Disability Cricket Programme

Ail: Active Newcastle

                   Chase Trails Cycle Project, Swydd Stafford

 

Enillydd y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau: Hands That Talk, Derry

Ail: Oasis Domestic Abuse Service, Caint

                   Dean and Cauvin Trust’s Aftercare Service, Caeredin