BALWN AWYR Y LOTERI GENEDLAETHOL YN YMWELD Â WRECSAM

Ymwelodd balwn awyr y Loteri Genedlaethol â Pharc Bellevue gyda Phencampwr Gwaywffon y Byd IPC Nathan Stephens, Pencampwr Dressage Paralympaidd Cenedlaethol, Natalie Povey o Wrecsam a, Medalydd Efydd y Byd yn Canwio, Rhys Davies o'r Bala.
Nod y daith balwn awyr yw diolch i chwaraewyr y Loteri am eu buddsoddiad o hyd at £2.2 biliwn yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, ar ôl buddsoddi mewn lleoliadau ac isadeiledd, paratoi athletwyr, chwaraeon llawr gwlad a'r Olympiad Diwylliannol.
Bydd Cymru yn chwarae rhan weithredol yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 gan mai digwyddiadau cyntaf y Gemau Olympaidd fydd gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd.
Bydd tua 1,000 o athletwyr elit a staff cymorth yn hyfforddi yng Nghymru yn y cyfnod yn arwain at y Gemau, gyda buddsoddiad sylweddol yn yr economi leol. Bydd De Cymru yn croesawu timau Paralympaidd Awstralia, Seland Newydd ac Ynysoedd y De eraill, a hefyd tîm Paralympaidd De Affrica, tîm Triathlon Iwerddon a thîm Trinidad a Thobago, gydag eraill i'w cyhoeddi eto. Mae Cymdeithas Paffio Ryngwladol Amatur (AIBA) hefyd wedi dewis cynnal eu gwersyll hyfforddi paratoadol 'Ffordd i Lundain' yng Nghaerdydd.
Dywedodd Pencampwr y Byd IPC a deiliad record y byd newydd, Nathan Stephens: “Dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch iawn eu bod yn ein cefnogi i’r carn. Mae’n siwr nad yw’r rhan fwyaf ohonynt yn ymwybodol pa mor bwysig ydynt i ddatblygiad chwaraeon yng Nghymru. Mae eu buddsoddiad yn caniatáu i mi hyfforddi’n llawn amser a rhoi cefnogaeth broffesiynol i mi anelu am aur y flwyddyn nesaf, rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gystadlu yn y Gemau Paralympaidd cartref. Mae’r balwn awyr yn ffordd wych o ddathlu sut mae arian y Loteri yn ein helpu ni i greu argraff ar lwyfan y byd.”
Ychwanegodd Natalie Povey, sy'n rhan o Raglen Datblygu Para Farchogion Safon Fyd-eang, "Mae cyrraedd Llundain 2012 yn gyfle unwaith mewn oes i athletwyr o Gymru. Nid oes cymhelliant mwy i athletwr na’r cyfle o gystadlu o flaen torf cartref. Mae’r gefnogaeth yr wyf yn ei derbyn gan y Loteri yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar fy mherfformiad chwaraeon. Mae’r cyffro wedi dechrau o feddwl bod llai na blwyddyn hyd at y Gemau ac mae’n wych bod gan Gymru rhan fawr i’w chwarae hefyd."
Bydd egin gymnastwyr, Katie Jones a Daniel Jones o glwb gymnasteg Abbey Road Accro, Wrecsam yn cwrdd â’r athletwyr elit hyn.
Bydd Cymru yn croesawu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd Ddydd Gwener 25 Mai 2012, gan dreulio pedair noson yng Nghymru a hynny yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Bydd yr Olympiad Diwylliannol yn rhan annatod o Gemau 2012 ac mae Cyngor Wrecsam yn arwain y prosiect Dilyn y Fflam, arddangosfa deithiol yn dathlu treftadaeth chwaraeon Cymru a gobeithion i'r dyfodol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Mae llawer o ddigwyddiadau a ariennir gan y Loteri yn digwydd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys pasiant yng Nghastell y Fflint a digwyddiadau yng Nghestyll Dinbych, Caernarfon a Harlech. Mae'r rhain yn rhan o'r prosiect Crochan a Ffwrnais uchelgeisiol.
Dywedodd Gwyn L Williams, Rhaglennydd Creadigol Cymru, Llundain 2012: "Mae Gemau Llundain 2012 a'i Olympiad Diwylliannol yn cysylltu â miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru. Mae safleoedd treftadaeth, lleoliadau ac ysgolion ar draws Gogledd Cymru yn gysylltiedig â llunio'r dathliadau diwylliannol ar gyfer y sioe orau yn y byd. Mae chwaraewyr y Loteri ar draws y DU yn codi dros £30 miliwn bob wythnos dros Achosion Da. Gyda dros £1.2 biliwn eisoes wedi’i fuddsoddi mewn prosiectau ar draws Cymru, mae’r arian hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a chymunedau."
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton, Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad Cyngor Wrecsam:
‘Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Balwn y Loteri Genedlaethol i Barc Bellevue Wrecsam. Bydd cyrhaeddiad y balwn yn adeiladu ar, ac yn tanio diddordeb a chyffro yn lleol ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.’
Am wybodaeth bellach, ewch i www.achosiondayloteri.org.uk.
-Diwedd-
Am wybodaeth a delweddau'r cyfryngau, cysylltwch â Fast Track:
Amelie Hawkins: 07768293480 / amelie.hawkins@fasttrackagency.com
Neu Jessica Cain yn Uned Hyrwyddiadau’r Loteri Genedlaethol ar 07834 208028/ jessica.cain@lotterygoodcauses.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
· Mae taith balwn awyr Gemau Llundain 2012 y Loteri Genedlaethol yn dathlu buddsoddiad y Loteri Genedlaethol yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Bydd y balwn yn ymweld â dinasoedd ar draws y DU yn ystod y misoedd i ddod, gan gynnig cyfle i aelodau'r cyhoedd i ennill cystadleuaeth i gwrdd ag athletwyr elit lleol a theithio yn y balwn awyr.
· Mae hyd at £2.2 biliwn o arian y Loteri yn cael ei fuddsoddi mewn lleoliadau ac isadeiledd, ynghyd â chefnogi tua 1200 o athletwyr elit i elwa o hyfforddiant a chefnogaeth o safon fyd-eang.
· Y Loteri Genedlaethol yw prif gyllidwr yr Olympiad Diwylliannol a Gwyl Llundain 2012, a fydd yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu a chael eu hysbrydoli gan y Gemau trwy ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol o fewn cymunedau lleol.
· Mae arian y Loteri Genedlaethol i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn cael ei ddyfarnu trwy Ddosbarthwr y Loteri Olympaidd, UK Sport, Sport England, Arts Council England, Legacy Trust UK, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council of Northern Ireland, Sport Scotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland.
· Mae Parc Bellevue wedi derbyn dros £400,000 o arian y Loteri trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, derbyniodd Abbey Road Accro £3,500 arian gan Chwaraeon Cymru.
· Mae Dilyn y Fflam yn cael ei arwain gan Gyngor Wrecsam, ac mae'r arddangosfa deithiol yn dathlu treftadaeth chwaraeon Cymru a gobeithion i'r dyfodol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Mae’n rhan o raglen Grym y Fflam, a arweinir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac sy’n derbyn arian y Loteri trwy’r Legacy Trust UK.
