Cyllidwyr Loteri

Arts Council England

Arts Council England yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y celfyddydau yn Lloegr, yn dosbarthu arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a’r Loteri Genedlaethol.

Arts Council of Northern Ireland

Arts Council of Northern Ireland yw prif asiantaeth ddatblygu’r celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon.

British Film Institute

BFI yw’r corff arweiniol ar gyfer ffilm yn y DU ac mae ganddo’r dasg o greu diwydiant ffilm llewyrchus ble y mae arloesiad, cyfleoedd a chreadigedd yn ffynnu.

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a ffordd heini ac iach o fyw.

Creative Scotland

Creative Scotland yw'r awdurdod datblygu newydd ar gyfer y diwydiannau celfyddydol, sgrin a chreadigol yn yr Alban.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n defnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol i roi grantiau ar gyfer ystod eang o brosiectau sy’n ymwneud â threftadaeth Prydain, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Cronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi ymrwymo i wella cymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyfrifol am ddatblygu ac ariannu’r celfyddydau yng Nghymru.

Olympic Lottery Distributor

Bydd y Loteri Genedlaethol yn chwarae rôl flaenllaw yn ariannu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012. Bydd y Olympic Lottery Distributor yn defnyddio arian y Loteri i baratoi grantiau i’r prosiectau hynny sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal y gemau.

Sport England

Mae Sport England yn buddsoddi mewn prosiectau sydd yn helpu pobl i ddechrau, parhau a llwyddo mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar bob lefel.

Sport Northern Ireland

Yn hyrwyddo chwaraeon i chi.

sportscotland

sportscotland yw asiantaeth genedlaethol chwaraeon yr Alban. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid ein cyfrifoldeb yw datblygu chwaraeon a gweithgaredd hamdden corfforol yn yr Alban.

UK Sport

Yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn arwain chwaraeon yn y DU i lwyddiant byd-eang.