Cyllid Loteri
Cwestiynau
Faint o arian y Loteri sy’n mynd i Achosion Da?
Am bob £1 sy’n cael ei gwario ar docyn y Loteri Genedlaethol mae 28c yn mynd i Achosion Da. Mae 50c yn mynd tuag at y gwobrau, 12c yn mynd i’r Trysorlys, 5c yn mynd i adwerthwyr y Loteri, a 5c i weithredwr y gêm (0.5c fel elw, mae’r gweddill yn cyflenwi costau gweithredu) Am fanylion pellach ewch i Cyllid y Loteri.
Pwy sy’n dosbarthu arian yr Achosion Da?
Ar hyn o bryd mae 14 o gyllidwyr Loteri yn penderfynu’n annibynnol pa brosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio am grant. Mae pob un yn annibynnol o’r Llywodraeth, ond mae’n rhaid iddynt ddilyn canllawiau wrth benderfynu pwy ddylai dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol. Am fanylion pellach ewch i http://www.lotteryfunding.org.uk, ond y 14 cyllidwr Loteri yw:
- Cyngor Celfyddydau Lloegr
- Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Celfyddydau’r Alban
- Scottish Screen
- UK Film Council
- Sport England
- Sport Scotland
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Cyngor Chwaraeon Gogledd Iwerddon
- UK Sport
- Cronfa Dreftadaeth y Loteri
- Y Gronfa Loteri Fawr (cyfuniad o Gronfa’r Gymuned a Chronfa Cyfleoedd Newydd)
- Comisiwn y Mileniwm
Sut allai wneud cais am grant?
Er mwyn darganfod sut i wneud cais am arian ffoniwch Llinell Gymorth Cronfa’r Loteri Genedlaethol ar 0845 275 0000 neu ewch ar http://www.lotteryfunding.org.uk sy’n egluro’r gwahanol ffrydiau ariannu, a pha rai sydd ar agor i dderbyn ceisiadau ar hyn o bryd.
Sut mae’r arian yn cael ei rannu?
Fel hyn mae arian Loteri yn cael ei ddyrannu rhwng Achosion Da ar hyn o bryd:
- Iechyd, Addysg a’r Amgylchedd 33.33%
- Chwaraeon 16.67%
- Y Celfyddydau 16.67%
- Treftadaeth 16.67%
- Elusennau 16.67%
Ydw i wedi derbyn e-bost 'scam'?
Mae manylion am y Loteri Genedlaethol yn cael eu defnyddio mewn e-byst ‘scam’ i geisio argyhoeddi pobl eu bod wedi ennill swm o arian. Peidiwch byth ag ymateb i e-byst tebyg i’r rhain, a pheidiwch a datgelu unrhyw fanylion personol. Nid yw’r Loteri Genedlaethol byth yn gofyn am fanylion personol, byth yn datgelu maint gwobrwyon, nag yn gofyn am unrhyw ffioedd o flaen llaw. Os ydych yn derbyn e-bost sydd yn gaddo’r byd - fe gewch eich siomi! Edrychwch ar wefan y Loteri Genedlaethol am fanylion pellach yngly^n â ‘scams’ fel hyn www.national-lottery.co.uk
Beth yw rôl yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon?
Mae gan y DCMS gyfrifoldeb o fewn y Llywodraeth am bolisi’r Loteri Genedlaethol, gan bennu sut mae’r cyrff sy’n dyrannu’r arian yn gweithredu. Am fanylion pellach ewch i www.culture.gov.uk
Sut allai gael gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael ble ‘rydw i’n byw?
Mae cronfa ddata ar wefan y DCMS sy’n caniatáu i chi ymchwilio i’r grantiau sydd eisoes wedi eu gwobrwyo. Ewch i www.culture.gov.uk.
Pwy yw Camelot?
Camelot yw gweithredwr trwyddedig presennol y Loteri Genedlaethol. Mae’n gyfrifol am sicrhau’r adenillion gorau posib i’r Achosion Da, ond nid ydyw’n dosbarthu nac yn gwobrwyo unrhyw arian. Mae Camelot yn cynllunio gemau newydd, yn darparu gwasanaethau i chwaraewyr ac enillwyr, ac yn gweithio gydag adwerthwyr i werthu tocynnau. Am fanylion pellach ewch i www.camelotgroup.co.uk.
Beth yw swyddogaeth Comisiwn y Loteri Genedlaethol?
Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol. Dyletswyddau’r Comisiwn yw gwarchod buddiannau’r chwaraewyr, sicrhau fod y Loteri yn cael ei gweithredu’n gywir, a manteisio i’r eithaf ar y swm a godir ar gyfer Achosion Da. Am fanylion pellach ewch i www.natlotcomm.gov.uk.
Beth yw rôl Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol?
Sefydlwyd yr NLPU i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Achosion Da sydd yn elwa o arian y Loteri. Roedd hyn yn ganlyniad i waith ymchwil oedd yn dangos fod pobl yn awyddus i wybod sut mae arian y Loteri yn cael ei wario. Mae’r Uned yn gweithio’n agos â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y cyrff ariannu ac â Camelot, y gweithredydd. Mae’n rheoli Gwobrwyon y Loteri Genedlaethol a Diwrnod y Loteri Genedlaethol.
Sut allai ddarganfod mwy am chwarae gemau Loteri?
Er mwyn cael gwybodaeth am bob agwedd o chwarae gemau, gan gynnwys canlyniadau a gwahanol ffyrdd o chwarae, ewch i wefan y Loteri Genedlaethol www.national-lottery.co.uk



