Cyllid Loteri
Cyllid Loteri
Mae pob punt sy’n cael ei wario ar y Loteri yn helpu Achosion Da'r DU. Hyd yn hyn mae mwy na 340,000 o brosiectau bach a mawr wedi elwa o nawdd gan y Loteri.
Meddyliwch.
Tua un prosiect am bob cilomedr sgwâr o’r DU.
Golyga hynny fod rhywfaint o’r arian yna wedi helpu prosiectau lleol yn eich ardal chi. Edrychwch ar sut mae’ch punt chi’n cael ei wario pan ‘rydych yn prynu eich tocyn Loteri neu gerdyn- crafu. Cewch eich synnu.
Felly, sut yn union mae fy mhunt i’n cael ei gwario?
Rydych yn gwario’ch punt ar docyn Loteri neu gerdyn-crafu yn eich siop leol. ‘Rydych yn mynd oddi yno’n “gobeithio’r gorau”.
Ac wedyn?
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am y gêm yn casglu’r bunt. Camelot yw’r cwmni hwn ar hyn o bryd, ond mae cystadleuaeth ar droed sy’n cael ei chynnal gan Gomisiwn y Loteri Genedlaethol (Corff annibynnol sydd wedi’i sefydlu gan y Llywodraeth i arolygu cywirdeb y Loteri Genedlaethol - www.natlotcomm.gov.uk) er mwyn darganfod pwy fydd yn gyfrifol am y Loteri o 2009 hyd at 2019.
Iawn, ond onid yw Camelot yn cael elw sylweddol gan y Loteri?
Dim ond HANNER CEINIOG o elw mae Camelot yn ei gael o’ch punt chi. Mae hynny’n gadael mwy o arian ar gyfer y pethau pwysig. Prosiectau fydd yn elwa cymunedau fel eich un chi.
Iawn, beth nesaf?
Mae 50 ceiniog o bob punt yn mynd i enillwyr lwcus y Loteri. Yn helpu i wireddu eu breuddwydion arbennig nhw.
A’r gweddill?
Mae 12 ceiniog yn mynd i’r Dyn Treth. Oes, mae’n rhaid i ni dalu’n trethi hefyd.
Beth am fy siop leol?
Mae 5 ceiniog yn mynd i’r adwerthwr. Mae 26,000 o siopau mawr a bach ledled y DU, felly mae un ar gael ger eich cartref chi. A gallwch hefyd chwarae ar-lein wrth gwrs.
A …
Costau gweinyddol, mae 4.5 ceiniog o bob punt yn cael eu defnyddio i gyflenwi costau gweinyddol, er mwyn sicrhau fod y Loteri’n rhedeg yn hwylus bob wythnos.
Ac mae hynny’n gadael y gweddill ar gyfer Achosion Da?
Mae 28 ceiniog o bob punt rydych yn gwario ar y Loteri Genedlaethol yn mynd tuag at helpu Achosion Da. Rydych wedi codi £22 biliwn hyd yn hyn – mae hynny’n lot o docynnau Loteri!
Grêt. Ond beth sy’n digwydd i’r arian?
Mae’r holl 28 o geiniogau o’ch punnoedd Loteri chi yn mynd i gyfrif sydd o dan oruchwyliaeth Adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Y nhw sydd hefyd yn gyfrifol am bolisi’r Loteri Genedlaethol a’r strwythur ble mae cyllidwyr y Loteri yn gweithio.
Pwy yw cyllidwyr y Loteri? Onid y DCMS sy’n penderfynu sut i wario’r arian?
Na. Nid yw’r DCMS yn gwneud penderfyniadau ar sut mae dosbarthu arian y Loteri. Mae’r penderfyniadau yngly^n â grantiau’r Loteri yn cael eu gwneud gan sefydliadau sydd yn annibynnol i’r Llywodraeth, ac sydd â gwybodaeth arbenigol am wahanol sectorau fel chwaraeon neu’r celfyddydau.
Iawn, ond pwy sy’n gwneud y penderfyniadau mawr felly?
Mae 14 sefydliad yn gyfrifol am roi arian Loteri i Achosion Da. Maent yn cwmpasu’r celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon, grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn ogystal â chefnogi prosiectau sy’n ymwneud ag iechyd, addysg a’r amgylchedd. Byddant hefyd yn noddi’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012. Darganfyddwch fwy am gyllidwyr y Loteri. Er mai’r cyllidwyr sy’n gyfrifol am roi’r arian, y bobl hynny sy’n rhedeg y prosiectau sy’n cyflawni pethau mawr. Darganfyddwch fwy wrth ddarllen rhai o’u straeon Loteri.
Felly sut bydd prosiect sy’n agos i ‘nghalon i yn gwneud cais am arian?
Yn gyntaf byddai’n rhaid i rywun o’r prosiect benderfynu sut byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio. Byddai’n rhaid creu cynllun posibl ac ymarferol ar gyfer sut y byddai’r arian o fudd i’r prosiect, ac wedi hynny, o fudd i’r gymuned gyfan.
Ac wedyn?
Yna dylid gyrru cais at y cyllidwr Loteri perthnasol, at un o’r cyllidwyr Chwaraeon ar gyfer prosiect chwaraeon, at Gyngor y Celfyddydau ar gyfer prosiect celfyddydol, ac yn y blaen. Bydd arbenigwyr y sector honno wedyn yn archwilio’r cais i benderfynu os ydyw’n ymarferol. Os yw’r cais yn llwyddiannus bydd y prosiect yn derbyn grant Loteri.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.lotteryfunding.org.uk
Ardderchog, ond sut ydych chi’n sicrhau fod yr arian yn cael ei wario’n deg?
Nid yw’r arian yn cael ei drosglwyddo mewn un siec fawr! Rhaid i’r prosiect brofi fod yr arian yn cael ei wario’n iawn cyn y bydd y cyllidwr Loteri yn rhyddhau taliad i ateb unrhyw gostau. Fel arfer mae hyn yn cael ei wneud bob yn dipyn ac yn cael ei fonitro’n ofalus.
Gwych! Sut allai gael mwy o wybodaeth?
Edrychwch ar rai o’r prosiectau ledled y DU sydd wedi’u hariannu gan y Loteri drwy ddarllen y Straeon Loteri, neu edrychwch ar rai o Enillwyr Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.



