Derbynyddion Arian y Loteri
> Cer AmdaniChwilio derbynyddion arian
Mae prosiect Cer Amdani Cymdeithas Mencap yn gweithio ar draws sawl rhanbarth yn Ne Cymru i roi hwb i hyder pobl ifanc ag anabledd dysgu, gan anelu i gael 30% o’r rheini sy’n cymryd rhan i mewn i waith cyflogedig. Mae hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr, gan eu cefnogi wrth iddynt recriwtio oedolion ifanc gydag anabledd dysgu.
Yn agored i bobl ifanc rhwng 19 a 25 oed, mae Cer Amdani yn gweithio gyda'r unigolyn, ac mae pob aelod yn derbyn cymorth un i un helaeth. Mae arian y Loteri wedi’i ddefnyddio i recriwtio Swyddogion Cyflogaeth sy’n cynnig y gefnogaeth hon wedi’i theilwra i bob person ifanc, ynghyd â thalu am weithdai ac ymarferion meithrin tîm.
Y cam cyntaf yw llunio cynllun gweithredu personol er mwyn adnabod unrhyw rwystrau at gyflogaeth y gallai’r person hwnnw eu hwynebu. Gallai hyn olygu gweithio ar ddatblygu sgiliau i'w gwneud yn fwy annibynnol, gan gynnwys sgiliau cymdeithasol, sgiliau ymarferol neu sgiliau galwedigaethol penodol. Yna bydd aelodau yn mynychu gweithdai sy’n ymdrin â phynciau megis rheoli gwrthdaro, cymorth cyntaf, hylendid bwyd a chyflwyniad personol ynghyd â mynd ar leoliadau gwaith. Pan fydd pobl ifanc yn teimlo’n barod i ddechrau chwilio am waith cyflogedig, byddant yn cael eu cefnogi gan eu Swyddogion Cyflogaeth.
“Mae swydd yn dod â hunan-barch, hyder, incwm a rôl yn y gymuned,” dywed y Rheolwr Gwasanaethau Cyflogaeth, Barbara Teague. “Ac mae cyflogi pobl gydag anabledd dysgu hefyd yn cyflwyno nifer o fuddion i gyflogwr. Yn wir, dengys ymchwil bod perfformiad yn y swydd a chofnodion diogelwch a phresenoldeb pobl ag anabledd dysgu yn aml yn well na rhai eu cydweithwyr.” Hyd yma, mae 62 aelod Cer Amdani wedi dod o hyd i swydd.
Mae un aelod, Calum wedi cael cynnig gwaith llawn amser yn yr adran parciau yng Nghyngor Sir Aberystwyth ar ôl bod ar brofiad gwaith yno. “Mae cael swydd yn golygu popeth i mi," dywed. “Roeddwn yn arfer bod yn nerfus ynglyn â mynd allan ar fy mhen fy hun. Ar ôl cael y swydd, rwyf allan drwy’r amser yn cwrdd â phobl ac mae hynny wedi rhoi hwb i fy hyder.”

