Rhai sy'n Gwneud Gwahaniaith
Dathlu'r Rhai sy'n Gwneud Gwahaniaeth - Arwyr Lleol, Yn Newid Bywydau
Mae'r Loteri Genedlaethol yn dathlu'r Rhai sy'n Gwneud Gwahaniaeth - y bobl eithriadol sy'n defnyddio arian y Loteri i wneud gwahaniaeth positif yn eu cymunedau.
Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £30 miliwn yr wythnos dros brosiectau a chymunedau ar draws y DU, felly os ydych chi wedi chwarae'r Loteri, rydych chi hefyd wedi helpu i newid bywydau pobl yn agos atoch chi.
Mae ariannu'r Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, lleoedd a chymunedau.
O helpu pobl ifanc i ddathlu ein harwyr rhyfel, ni fyddai'r prosiectau a ariennir gan ein harian y Loteri yn digwydd heb waith caled y bobl ymrwymedig y tu ôl iddynt.
Cwrdd â'r Rhai sy'n Gwneud Gwahaniaeth.....
Dick Moules yn helpu i gadw bywyd y pentref yn fyw
Yr Un sy'n Gwneud Gwahaniaeth: Dick Moules
Pan oedd siop bentref leol Dick dan fygythiad o gau, roedd yn wynebu taith gron o 14 milltir er mwyn casglu ei bapur dyddiol. Yn amharod i eistedd yn ôl a gadael i hynny ddigwydd, fe aeth Dick ati i gasglu ei gymdogion ynghyd ac ar y cyd fe wnaethant ddechrau ymgyrch 'Achub Ein Siop'.
"Mae'r canlyniadau wedi bod yn anghredadwy," cyfaddefodd Dick. "Mae gennym dros 50 o wirfoddolwyr, yn rhoi o'u hamser i helpu i redeg y siop yn awr. Mae wedi dod yn lleoliad sy'n ffynnu i'r gymuned ac mae'n allweddol ar gyfer preswylwyr sy'n profi anawsterau wrth gyrraedd siopau y tu allan i'r pentref. Mae yna deimlad braf i'r lle. Mae pawb yn teimlo'n falch iawn o'r siop ac yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydym yn ei wneud. “
Fe wnaeth grant y Loteri o £7,500 roi'r hyder i Dick a'i gyd-wirfoddolwyr i ddechrau'r fenter. Nid yn unig y mae Dick wedi defnyddio'r arian hwn i helpu i greu gwasanaeth hanfodol ar gyfer ei gymdogion ond mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth ei droi yn un llwyddiannus. “Fe wnaethom elw o £15,000 eleni a fydd yn mynd yn ôl yn uniongyrchol i brosiectau'r pentref. Trwy lwyddiant y siop rydym wedi gallu rhoi arian i'r cylch cyn-ysgol lleol, grwp theatr a sicrhau ffenestri newydd i'r neuadd bentref. Mae'n fenter gymunedol yng ngwir ystyr y gair.”
Heb fod yn fodlon ar helpu i achub yr unig siop yn y pentref, fe gamodd Dick i'r adwy hefyd pan oedd y dafarn leol ar fin cau. Fe gysylltodd â'r bragdy a llwyddo i'w darbwyllo i adael i Humshaugh Community Ventures, sy'n cynnwys gwirfoddolwyr lleol, i gymryd yr awenau hyd oni y byddai perchennog newydd yn cael ei ganfod. Yn hytrach na chael busnes gwag gyda'r ffenestri wedi'u byrddio yng nghanol y pentref, sicrhaodd Dick a gwirfoddolwyr Humshaugh bod y dafarn yn parhau yn agored ac yn cadw'i chwsmeriaid hyd oni y daethpwyd o hyd i berchnogion newydd.
Mae rhandiroedd, perllannau a gwenyn yn llond llaw yn unig o'r prosiectau cyffrous y mae Dick a'r tîm bellach yn eu hystyried er mwyn parhau â'r adfywiad gwledig yn Humshaugh.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.humshaughshop.co.uk
Chanelle McCauley yn meithrin arweinwyr ifanc y dyfodol
Yr Un sy'n Gwneud Gwahaniaeth: Chanelle McCauley
Roedd Chanelle McCauley, 25, angen "cryfder mewnol" i oresgyn problemau wrth dyfu i fyny a bellach mae'n ymrwymo'i bywyd i helpu pobl ifanc i ganfod synnwyr diben.
Mae Bolton Lads & Girls Club yn fwy na dim ond swydd i Chanelle. "Rwyf wedi buddsoddi cymaint yn emosiynol wrth ddatblygu pobl ifanc leol fel ei fod yn ffordd o fyw i mi erbyn hyn," esbonia.
Chanelle sy'n arwain yr hynod lwyddiannus a phoblogaidd Young Leaders Project, cynllun hyfforddi chwe wythnos ar gyfer pobl ifanc dan 19 oed sy'n byw yn Bolton neu gerllaw. Mae'n cynnig cyfle iddynt gyfrannu'n ôl i'r gymuned trwy rolau arweinyddiaeth a gwirfoddoli, gan eu cyfarparu â'r offer i gyflwyno gweithgareddau mewn sesiynau clwb ieuenctid. "Daw nifer o'r cyfranogwyr o gefndiroedd anodd sy'n aml mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol," dywed Chanelle. "Rwy'n gallu uniaethu â'r hyn y mae'r bobl ifanc hyn yn eu profi ac yn adnabod yr angen am arweinwyr ysbrydoledig yn eu bywydau. Roedd un o'n dynion ifanc diweddar ar raglen yn methu gwneud siocled poeth pan ddechreuodd ar y cynllun, ond roedd yn gallu gwneud pryd tri chwrs pan adawodd. Efallai bod hyn yn swnio fel llwyddiant dibwys ond fe wnaeth ddysgu sgiliau gwerthfawr ac ymarferol a fydd ganddo am byth. Roedd rhai o'r bobl ifanc eraill a ddaeth atom yn methu yn yr ysgol, heb unrhyw gymhelliant a chanddynt ddiffyg synnwyr diben ond erbyn diwedd y chwe wythnos maen nhw'n ôl yn addysg lawn amser, gan edrych ymlaen at orffen yn yr ysgol."
"Mae'r prosiect yr wyf wedi helpu i'w ddatblygu yn creu cyfleoedd cyfranogi positif a deniadol ar gyfer pobl ifanc gan roi cyfle iddynt i ddatblygu sgiliau allweddol a chyflawni achrediadau ffurfiol. Mae hefyd yn rhoi'r offer a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i hwyluso eu symudiad i oedolaeth."
"Mae'r prosiect wedi cael croeso cynnes ac rydym wedi rhagori yn rhwydd ar ein targedau a bellach mae gennym restr aros o 60 o bobl ifanc. Mae hwnnw'n deimlad hyfryd ac rwy'n hynod falch o'r hyn yr ydym yn ei gyflawni yn y gymuned leol. Mae'n bleser cael bod yn rhan o'r newid hwn."
Fe wnaeth £185,340 o arian y Loteri dalu am eu Young Leaders Project.
Mae Irene wedi helpu i sicrhau bod cymdogion ei chymuned yn eu heiddigeddu...
Yr Un sy'n Gwneud Gwahaniaeth: Irene Hogg
Mae gan gymuned Loanhead ganolfan gymunedol newydd wedi'i hadeiladu i'r diben, sef The Kabin. A diolch i benderfyniad y preswylydd lleol, Irene Hogg, y mae'r pentref Midlothian hwn yn destun eiddigedd i'w gymdogion.
Mae stori Irene yn dechrau yn ôl ar ddechrau'r 1990au pan helpodd yn gyntaf i agor clwb ar ôl ysgol yr oedd ei angen yn fawr ar y plant lleol. Dros y blynyddoedd, gweithiodd Irene yn galed i ehangu ar y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i'r gymuned leol trwy sefydlu Loanhead Community Learning Centre. Yn ei geiriau ei hun, mae Irene yn cyfaddef “Mae gennyf enw am beidio â rhoi'r gorau iddi a dyfalbarhau hyd oni y bydd pobl yn cytuno â mi! Ond mae pobl yn dweud eu bod yn deall pa mor angerddol ac ymrwymedig ydw i."
Ddegawdau yn ddiweddarach ac roedd y ganolfan wedi mynd yn rhy fach i'r lleoliad a dyna phryd yr aeth Irene ati i ymgeisio am ariannu i adeiladu canolfan gymunedol newydd, gan sicrhau £596,533 gan y Loteri Genedlaethol.
"Fe wnaethom ofyn i'r gymuned beth yr oedd ei angen arnynt gan lunio rhestr o ddymuniadau. Roedd yn cynnwys siop elusennol, sinema, canolfan chwarae meddal, caffi, gardd gymunedol, golchdy cost isel, a stiwdio recordio ar gyfer y rhai yn eu harddegau - llawer o syniadau rhyfeddol.
"Roeddwn wrth fy modd bod y Loteri wedi cytuno i gefnogi ein prosiect. Fe gymerodd dair blynedd o gynllunio ond rwyf wrth fy modd gyda'r hyn sydd gennym yma. Rydym wedi gallu darparu ymron i bopeth y mae'r gymuned wedi gofyn amdano."
Mae ethos Irene mewn bywyd yn ymwneud â 'gwella'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau a dyfodol ein plant' ac mae'n aml yn annog pobl eraill i sefydlu eu canolfan eu hunain, fel y Kabin.
"Mae pobl o'r ardaloedd cyfagos yn aml yn ymweld â ni ac yn dweud 'rydym eisiau un o' rhai yn ein cymuned'. Felly rydw i'n siarad â hwy am sut y gallant wneud hynny a'u hannog i geisio ariannu o leoedd fel y Loteri Genedlaethol. Rwy'n rhoi gwybod iddynt ba mor gefnogol yw'r Loteri yn fy mhrofiad i - nid yn unig yn rhoi'r arian i ni i greu'r lle hwn ond hefyd y gefnogaeth a'r arweiniad y maen nhw wedi'u cynnig, sydd wedi bod yn anghredadwy."
Am ragor o wybodaeth ewch i www.lclc.org.uk
Derbyniodd Paul OBE am ei wasanaethau i gerddoriaeth
Yr Un sy'n Gwneud Gwahaniaeth: Paul Whittaker (OBE)
Ganed Paul yn Huddersfield ym 1964 ac mae wedi bod yn fyddar trwy gydol ei fywyd. Pan oedd yn 24 oed yn unig fe sefydlodd Music and the Deaf, mudiad wedi'i anelu at helpu pobl fyddar, a'r rheini sy'n byw ac yn gweithio â hwy, i gael mynediad at gerddoriaeth a'i mwynhau. Am dros 20 mlynedd mae Paul wedi gweithio gyda miloedd o bobl ar draws y DU, wedi ymchwilio ac ysgrifennu canllawiau i greu cerddoriaeth gyda phlant byddar, rhoi miloedd o sgyrsiau ac wedi arwyddo perfformiadau theatr, ynghyd â sefydlu Deaf Youth Orchestra.
Yn 2007 gwobrwywyd OBE i Paul am ei Wasanaethau i Gerddoriaeth, ond mae'n mynnu mai ei lwyddiant mwyaf yw gallu newid bywydau pobl. “Does dim yn curo gweld wynebau rhieni na feddyliodd mewn miliwn o flynyddoedd y byddai'n bosibl i'w plentyn byddar chwarae offeryn, yn enwedig i safon mor broffesiynol."
"Fe wnaethom sefydlu'r National Deaf Youth Orchestra yn 2006, ac ers hynny rydym wedi derbyn arian y loteri i helpu i'n cefnogi, rydym newydd dderbyn £75,000 arall i'n helpu i'w sefydlu, bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth anferth ac rydym yn ddiolchgar iawn am arian y Loteri Genedlaethol."
Am ragor o wybodaeth am Music and the Deaf ewch i, http://matd.org.uk/
Yr Un sy'n Gwneud Gwahaniaeth: Julie Evans
Roedd gan Julie Evans weledigaeth o'r gwahaniaeth y gallai'r celfyddydau perfformio a gweledol ei wneud yng nghymunedau Cymoedd De Cymru, ac roedd yn benderfynol o wireddu hynny.
O ganlyniad i'r weledigaeth honno mae'r prosiect y mae hi bellach yn ei arwain yn helpu pobl o dair oed i 93 oed i ganfod eu lleisiau.
Mae Julie wedi ymroi ei hun i annog pobl o bob oed i gyfranogi a chreu eu gwaith celf eu hunain, hyrwyddo hunan fynegiant, codi eu dyheadau, cyfrannu at iechyd a lles a meithrin eu hyder a'u hunan-barch.
Mae angerdd Julie dros y theatr ddawns yn heintus, ac mae wedi darbwyllo pobl o bob oed i berfformio mewn lleoliadau ar draws De Cymru a'r DU.
Mae'n Gyfarwyddwr Celfyddydau Cymuned Rhondda Cynon Taf, wedi'i leoli ym Mhontypridd yn gweithio ar draws Cymoedd, ac mae'n dal i wneud gwaith theatr dawns cydraddoldeb i'r anabl.
Fe ddatblygodd y prosiect arloesol ar gyfer gweithio gyda phobl hyn, Cofio/Remembering. Fe ddechreuodd yn 2002 yn edrych ar atgofion pobl rhwng 60 a 93 oed. Mae bellach yn gynhyrchiad theatr dawns deithiol sy'n mynd â ni nôl ar daith i'r gorffennol o'r 30au, y 40au a'r 50au - dyddiau dawns, dyddiau golchi, cwympo mewn cariad, gwibdeithiau i Ynys y Bari ar y siarabáng, Yr Ail Ryfel Byd, a mwy.
Mae'r gwaith hwn yn syml i Julie - "Rwyf eisiau rhannu prydferthwch y ddawns," dywed.
O ddysgu cyfryngau digidol i bobl ag anableddau dysgu, i helpu mamau yn eu harddegau i greu eu cylchgrawn eu hunain i adrodd eu straeon, i helpu rhai tair oed i ganfod eu traed yn llythrennol, mae gweledigaeth Julie wedi helpu miloedd o bobl i ganfod eu hunain.
"Heb arian y Loteri yn y dyddiau cynnar ni fyddem wedi gallu darparu'r gwasanaethau hyn sy'n ymgysylltu cymaint o bobl ar draws y Cymoedd.
"Mae arian y Loteri wedi'n helpu ni i greu gwaith newydd ac wedi'n hysbrydoli ni i feddwl mewn ffyrdd arloesol er mwyn dechrau gweithio gydag ystod ehangach o bobl."
"Mae llawer o'r gwaith wedi gweddnewid bywydau pobl. Os feddyliwch chi am rai bach sy'n dair oed a chael y cyfle i weithio â hwy trwy gydol eu hoes, gallwch ddychmygu pa mor falch ydw i o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yma.
"Mae'r gwaith hwn yn ymwneud yn fwy na meithrin hyder, mae'n helpu pobl i ganfod eu lleisiau."
Mae Celfyddydau Cymuned Rhondda Cynon Taf wedi tyfu i gynnwys 30 o artistiaid llawrydd allgymorth, ac wedi derbyn £94,154 o arian y Loteri i gynnig ystod o brosiectau celfyddydau cymuned.
Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.rctca.org.uk/
Paul Bosco McEneaney
Cahoots NI
Yn sylfaenydd a'n gyfarwyddwr artistig Cahoots, un o brif gwmnïau theatr plant Gogledd Iwerddon, mae Paul Bosco McEneaney yn uchel ei barch ac yn gyfarwydd am ei bersonoliaeth garismatig â'i ddychymyg di-ben-draw a'i graffter busnes. Mae galw cyson amdano fel cyfarwyddwr theatr ac lledrithiwr.
Mae Cahoots wedi perfformio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn cael ei gydnabod gan y diwydiant creadigol a mudiadau celfyddydol fel arweinwyr ym maes Theatr plant.
Derbyniodd Paul set hud a lledrith pan oedd yn wyth oed ac fe ddechreuodd ddiddanu ei deulu a'i ffrindiau. Pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed, roedd yn ddewin agos medrus ac eisoes yn cymryd ei gamau cyntaf ar hyd llwybr gyrfaol, a fyddai'n ei arwain at ei gwmni a gydnabyddir yn rhyngwladol dros y byd i gyd.
Yr haf diwethaf, fe gyfarwyddodd noson gyntaf yn y byd o sioe blant ar yr enwog Imagination Stage yn Washington DC.
Mae wedi ffurfio partneriaethau ffyniannus gyda chwmnïau a sefydliadau masnachol o fewn sector busnes Gogledd Iwerddon, gan greu cysylltiadau cryf rhwng busnesau a'r celfyddydau. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennydd ar TYA (Theatre for Young Audiences), the UK Centre of the International Association of Theatre for Children and Young People (ASSITEJ).
Dywed Paul fod Arian y Loteri wedi galluogi iddo greu
llawer o gynyrchiadau theatr proffesiynol o ansawdd uchel gan ddatblygu
celfyddydau perfformio, drama, hud, lledrith, cerddoriaeth, dawns a sgiliau
syrcas. "Yn aml mae Cahoots NI yn mynd â'r theatr at y gynulleidfa, gan
weithio ym meysydd iechyd ac addysg o fewn lleoliadau yn amrywio o ganolfannau
celfyddydau, ysgolion, canolfannau cymunedol, ysbytai, lleoliadau seibiant a
hosbis, lleoliadau cyhoeddus a dinesig ynghyd â phabell fawr Cahoots ei
hun."
