Telerau ac Amodau

1. Maen prawf cystadlu

1.1 Hyrwyddwr y gystadleuaeth hon yw Uned Hyrwyddiadau’r Loteri Genedlaethol (“NLPU”).

1.2 Er mwyn i’ch prosiect gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2010 (“Gwobrau’r Loteri Genedlaethol”) rhaid i chi fod yn gynrychiolydd awdurdodedig y prosiect gyda’r holl gysyniadau angenrheidiol i gystadlu yn y gystadleuaeth hon dros ac ar ran y prosiect a rhaid i’r prosiect:

  • 1.2.1   fod wedi derbyn arian y Loteri unrhyw bryd er 1994;
  • 1.2.2   fod wedi’i leoli yn y DU;
  • 1.2.3   heb ennill gwobr yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol mewn unrhyw flwyddyn flaenorol;
  • 1.2.4   a'ch bod chi’n cytuno mai'r cais hwn yw cais eich prosiect ac nid eich cais personol chi.

1.3 Mae prosiectau sydd wedi cystadlu yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol o’r blaen, ond na wnaethant ennill Gwobr, yn gymwys i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni.

2. Cystadlu a’r broses gystadlu 

2.1 Er mwyn cystadlu yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol, rhaid i’r prosiect:

  • 2.1.1   lanw a chyflwyno’r ffurflen gais sydd ar gael yn www.lotterygoodcauses.org.uk/awards; neu
  • 2.1.2   ofyn am ffurflen gais trwy ffonio’r llinell gymorth ar 020 7324 4366 a dychwelyd y ffurflen gais wedi’i llanw yn y post at y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen gais.

2.2 Rhaid i'r NLPU dderbyn yr holl geisiadau erbyn 5pm Ddydd Gwener 19 Chwefror 2010.

2.3 Rhaid i bob cais ddewis hyd at ddau o’r categorïau a ganlyn y mae’r prosiect yn dymuno cystadlu ynddynt:

  • 2.3.1   Y Prosiect Celfyddydau Gorau;  
  • 2.3.2   Y Prosiect Addysg Gorau;
  • 2.3.3   Y Prosiect Amgylcheddol Gorau;
  • 2.3.4   Y Prosiect Iechyd Gorau mewn cydweithrediad gydag iVillage.co.uk
  • 2.3.5   Y Prosiect Treftadaeth Gorau;  
  • 2.3.6   Y Prosiect Chwaraeon Gorau; neu
  • 2.3.7   Y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau, mewn cysylltiad â chylchgrawn Woman.

 

2.4 Yna bydd panel beirniadu, wedi’i ddewis gan NLPU, yn llunio rhestr fer o 10 prosiect ym mhob categori a bydd y cyhoedd yn pleidleisio drostynt yn “rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus”. Wrth wneud ei benderfyniad, bydd y panel beirniadu yn ystyried pa brosiectau:

  • 2.4.1   sy'n amlwg yn enghraifft dda o ddefnydd ar arian y Loteri;
  • 2.4.2   sy'n dangos y gwahaniaeth positif y mae arian y Loteri yn ei wneud i bobl, lleoedd a/neu cymunedau; a
  • 2.4.3   sy'n gallu rhoi astudiaeth achos sy’n dangos effaith y prosiect.

2.5 Rydych chi’n cytuno bod yr holl hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys hawlfraint) yn y deunydd a gyflwynir i’r NLPU at ddibenion y gystadleuaeth hon, neu mewn cysylltiad â hi, wedi’u neilltuo i’r NLPU o'r dyddiad gwnaeth y prosiect ymgeisio. Rydych chi’n gwarantu mai eich gwaith gwreiddiol eich hun yw’r cais neu waith gwreiddiol y prosiect.

2.6 Bydd rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus yn dechrau am 9am ar 1 Mehefin 2010 ac yn cau am hanner dydd ar 18 Mehefin 2010. Bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio ar-lein a dros y ffôn. Ar ôl cau’r bleidlais, bydd y tri phrosiect ym mhob categori gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau (cyfuno pleidleisiau ar-lein ac ar y ffôn) yn symud i “rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus”.

2.7 Bydd rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus yn dechrau am 9am ar 26 Gorffennaf 2010 ac yn cau am hanner dydd 13 Awst 2010. Ac eithrio os bydd prosiectau yn gyfartal (fel yr amlinellir ym mharagraff 3.9 a 3.10 y telerau ac amodau hyn), ni fydd pleidleisiau o rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus yn cyfrif yn rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus. Y prosiect gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus (cyfuno pleidleisiau ar-lein a dros y ffôn) ym mhob categori fydd yn ennill y categori.  Bydd enillydd y saith categori yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 (“Gwobr”) yr un.

2.8 Bydd holl enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar wefan NLPU www.achosiondayloteri.org.uk ar ôl cyhoeddi’r enillwyr.  Rydych chi’n cytuno y gellir cyhoeddi'ch enw chi a’r prosiect ar y wefan hon.

3. Pleidleisio yn ystod rowndiau pleidlais gyhoeddus – telerau cyffredinol

3.1 Gallwch fwrw pleidlais yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol naill ai (a) ar-lein ar y wefan www.lotterygoodcauses.org.uk/awards neu (b) o linell ffôn ty neu ffôn symudol (“pleidlais”). Wrth fwrw pleidlais rydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo i'r telerau ac amodau hyn.

3.2 Gallwch fwrw pleidlais yn ystod y cyfnodau pleidleisio cynderfynol a therfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. Gallwch fwrw pleidlais dros un prosiect neu nifer o brosiectau.

3.3 Bydd Gwasanaethau Diwygio Etholiadol yn gweithredu fel beirniad annibynnol trwy gydol y broses bleidleisio, a byddant wedi sefydlu systemau i fonitro’r pleidleisio, craffu’r pleidleisiau, ymgymryd â phrofi i sicrhau dilysrwydd y bleidlais ac ardystio cyfanswm terfynol y pleidleisiau yn ystod y cyfnod cynderfynol neu derfynol.

3.4 Mae cymhwyster unrhyw bleidlais ar ddisgresiwn llwyr NLPU.  Mae NLPU yn cadw’r hawl ar ei disgresiwn llwyr i herio, ddiddymu, terfynu, addasu neu wahardd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir os yw beirniad annibynnol y gystadleuaeth (mewn ymgynghoriad gyda NLPU), yn meddwl yn rhesymol bod hi’n debygol bod rhywun wedi trin neu ymyrryd â’r bleidlais, neu am unrhyw reswm arall y mae’r NLPU ar ei disgresiwn unig a llwyr yn ei ystyried yn angenrheidiol, bydd yn cymryd unrhyw gamau a allai fod ar gael i ganslo, terfynu, addasu neu wahardd y bleidlais er mwyn cynnal gonestrwydd y gystadleuaeth.  Mae gan NLPU (ar y cyd ag ERS) ei gweithdrefnau mewnol ei hun dros gynnal cyfanrwydd y gystadleuaeth, sydd ar gael o wneud cais amdanynt.

3.5 Nid yw NLPU yn gyfrifol am fethiannau rhwydwaith, llinellau ffôn neu gyfathrebu o unrhyw faith, neu dros bleidleisiau sy’n anghyflawn neu’n annealladwy neu heb eu derbyn. Ni fydd pleidleisiau o’r fath yn ddilys.

3.6 Mewn unrhyw achos o ddiffyg, camgymeriad, camddealltwriaeth neu anghydfod yn ymwneud â gweithredu unrhyw ran o’r pleidleisio, gweithredu’r system dechnegol neu unrhyw fater arall yn deillio o’r pleidleisio, bydd penderfyniad NLPU yn derfynol ac ni fyddant yn mynd i ohebiaeth.

3.7 Ni fydd NLPU, o dan unrhyw amgylchiadau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw weithred neu esgeulustod ar ran y NLPU) yn atebol am unrhyw ddifrod neu golli elw anuniongyrchol, damweiniol, arbennig a/neu ôl-ddilynol sy’n deillio o unrhyw ddefnydd neu fynediad at, neu anallu i ddefnyddio neu gael mynediad at y bleidlais.

3.8 Cyfanswm yr holl bleidleisiau a dderbynnir (ar-lein ac ar y ffôn) yn ystod y cyfnod pleidleisio perthnasol fydd canlyniad pob cyfnod pleidleisio. Ni fydd pleidleisiau ffôn a dderbynnir ar ôl i'r cyfnod pleidleisio perthnasol ddod i ben yn cael eu cyfrif ond bydd yn rhaid talu am yr alwad.

3.9 Os bydd dau brosiect sy’n cystadlu yn gyfartal yn rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus (ar ôl ystyried pleidleisiau dros y ffôn ac ar-lein), bydd y ddau brosiect yn symud ymlaen i rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus.

3.10 Os bydd dau brosiect sy’n cystadlu yn gyfartal yn rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus (ar ôl ystyried pleidleisiau dros y ffôn ac ar-lein), bydd y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob prosiect yn ystod y rownd gynderfynol yn cael eu hychwanegu at gyfanswm y rownd derfynol a’r prosiect gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau cyfun fydd yn ennill.  Os, ar ôl cyfrif pleidleisiau’r rownd gynderfynol a’r rownd derfynol, y bydd nifer y pleidleisiau’n parhau yn gyfartal, bydd y ddau brosiect yn cael eu hystyried yn enillwyr cyfartal a bydd y Wobr yn cael ei rhannu’n gyfartal rhyngddynt.

4. Pleidleisio Ar-lein

4.1 Bydd pleidleisio ar-lein ar gyfer y cyfnod cynderfynol yn agor o 9am ar 1 Mehefin 2010 a bydd yn cau am hanner dydd ar 18 Mehefin. Bydd defnyddwyr gwefan www.achosiondayloteri.org.uk yn gallu bwrw eu pleidlais dros brosiectau ar y rhestr fer ac, yn amodol ar baragraff 3.9, y tri phrosiect gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori (o’u cyfuno gyda phleidleisiau ffôn ar gyfer yr un cyfnod) ar ôl cau'r pleidleisio fydd yn symud ymlaen i'r rownd derfynol. Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif unwaith y mae’r bleidlais wedi’i chau. Bydd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir ar ôl cau’r pleidleisio yn cael eu diystyru ac ni fyddant yn cael eu cyfrif tuag at y canlyniad terfynol.

4.2 Bydd y bleidlais ar-lein ar gyfer y cyfnod terfynol ar agor o 9am ar 26 Gorffennaf 2010 ac yn cau am hanner dydd ar 13 Awst 2010 (sylwer: bydd y pleidleisiau yn cael eu hailosod i sero ar ôl y cyfnod cynderfynol). Bydd defnyddwyr gwefan www.achosiondayloteri.org.uk yn gallu bwrw eu pleidlais dros brosiectau a symudodd ymlaen i'r cyfnod olaf o'r cyfnod cynderfynol ac, yn amodol ar baragraff 3.10, y prosiect gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori (o'u cyfuno gyda phleidleisiau ffôn ar gyfer yr un cyfnod) wrth gau'r pleidleisio fydd yn ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol ar gyfer ei gategori a’r Wobr. Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif unwaith y mae’r bleidlais wedi’i chau.  Bydd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir ar ôl cau’r pleidleisio yn cael eu diystyru ac ni fyddant yn cael eu cyfrif tuag at y canlyniad terfynol.

4.3 Ni chodir tâl am bleidleisio ar-lein.

4.4 Mae gwybodaeth a roddir ar y wefan gyda manylion ar sut i bleidleisio yn ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn.

5. Pleidleisiau Ffôn

5.1 Bydd y bleidlais ffôn ar gyfer y cyfnod cynderfynol yn agor o 9am ar 1 Mehefin 2010 a bydd yn cau am hanner dydd ar 18 Mehefin 2010. Bydd defnyddwyr ffôn yn gallu bwrw eu pleidlais dros brosiectau ar y rhestr fer ac, yn amodol ar baragraff 3.9, y tri phrosiect gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori (o’u cyfuno gyda phleidleisiau ar-lein ar gyfer yr un cyfnod) ar ôl cau'r bleidlais fydd yn symud ymlaen i'r rownd derfynol o bleidleisio. Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif unwaith y mae’r bleidlais wedi’i chau. Bydd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir ar ôl cau’r pleidleisio yn cael eu diystyru ac ni fyddant yn cael eu cyfrif tuag at y canlyniad terfynol, er mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am yr alwad.

5.2 Bydd y bleidlais ffôn ar gyfer y cyfnod terfynol ar agor o 9am ar 26 Gorffennaf 2010 ac yn cau am hanner dydd ar 13 Awst 2010 (sylwer: bydd y pleidleisiau yn cael eu hailosod i sero ar ôl y cyfnod cynderfynol). Bydd defnyddwyr ffôn yn gallu bwrw eu pleidlais dros brosiectau a symudodd ymlaen i'r cyfnod olaf o'r cyfnod cynderfynol ac, yn amodol ar baragraff 3.10, y prosiect gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori (o'u cyfuno gyda phleidleisiau ar-lein ar gyfer yr un cyfnod) wrth gau'r pleidleisio fydd yn ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol ar gyfer ei gategori a’r Wobr. Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif unwaith y mae’r bleidlais wedi’i chau. Bydd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir ar ôl cau’r pleidleisio yn cael eu diystyru ac ni fyddant yn cael eu cyfrif tuag at y canlyniad terfynol, er mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am yr alwad.

5.3 Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cymryd gofal wrth ddeialu’r gwasanaethau pleidleisio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y rhif cywir yn cael ei ddeialu. Ni fydd NLPU yn gyfrifol am gostau yn sgil rhifau wedi’u cam-ddeialu neu unrhyw ganlyniadau yn sgil camgymeriad y defnyddiwr.

5.4 Cost galwadau o linell ffôn BT yw 5c. Gallai galwadau o rwydweithiau eraill amrywio a bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol uwch. Cynghorir y galwyr i wirio gyda’u darparwr rhwydwaith ffôn er mwyn bod yn sicr ynghylch y gost. Ni fydd Uned Hyrwyddiadau’r Loteri Genedlaethol na’r Loteri Genedlaethol yn gwneud elw o gost y bleidlais ffôn.

5.5 Bydd costau’r galwadau yn ymddangos ar eich bil ffôn nesaf. Dylai’r holl ymholiadau yn ymwneud â biliau ffôn gael eu cyfeirio at eich darparwr rhwydwaith ffôn symudol neu ffôn.

5.6 Os nad chi sy’n talu’r bil, rhaid i chi gael caniatâd y sawl sy’n talu’r bil cyn ffonio.

6. Canlyniadau

Disgwylir cyhoeddi’r canlyniadau ar BBC1 ar ryw nos Sadwrn yn yr hydref 2010. Mae NLPU a’r BBC yn cadw’r hawl i newid, diwygio neu amrywio unrhyw un o’r dyddiadau, amserau neu gyfrwng cyhoeddi’r canlyniadau neu unrhyw raglenni eraill mewn perthynas â’r bleidlais unrhyw bryd ar eu disgresiwn llwyr.

7. Brandio

Rydych chi a’r prosiect yn cytuno y bydd y prosiect yn arddangos brand Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn unol â’r canllawiau a roddir gan NLPU ar unrhyw un o’i gwefannau os bydd y cais hwn yn symud ymlaen i rowndiau pleidlais gyhoeddus y gystadleuaeth hon.

8. Manylion cyswllt a gwybodaeth bellach

Er mwyn derbyn copi caled o’r Telerau ac Amodau hyn, anfonwch amlen hunangyfeiriedig at Legal Department, NLPU, 1 Plough Place, London EC4A 1DE.

9. Hawliau Defnyddwyr

Nid oes unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn cyfyngu ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr. Am ragor o wybodaeth ar eich hawliau statudol, dylech gysylltu â’ch Swyddog Safonau Masnachu neu’r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni wedi'i diogelu gan y Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar gronfa ddata gan y NLPU ac efallai y bydd yn cael ei defnyddio gan yr NLPU at ddibenion hyrwyddo, ymchwil neu farchnata. Efallai y bydd NLPU yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i un o’i hasiantaethau i helpu’r NLPU i gynnal y gystadleuaeth hon neu at ddibenion hyrwyddo, ymchwil neu farchnata. Os nad ydych chi eisiau derbyn gwybodaeth gan yr NLPU neu drydydd partïon, anfonwch e-bost at NLPU:  matthew.mansfield@lotterygoodcauses.org.uk

10. Cymorth wrth bleidleisio

Os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau wrth gystadlu yn y gystadleuaeth hon neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ffoniwch 020 7211 1855 neu anfonwch e-bost at: matthew.mansfield@lotterygoodcauses.org.uk

11. Cyfraith lywodraethu

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu’n gyfan gwbl a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac rydych yn ymostwng yn ddi-alw yn ôl i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.  Mae holl amserau a dyddiadau yn cyfeirio at amserau a dyddiadau yn Lloegr.

12. Newidiadau i'r Telerau ac Amodau hyn

Mae NLPU yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn unrhyw bryd heb rybudd blaenorol ar ei disgresiwn llwyr. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu hysbysebu ar y wefan www.achosiondayloteri.org.uk a bydd cofnod o'r fath yn rhybudd digonol i'r holl ddefnyddwyr.