Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2010

Diolch i bawb a bleidleisiodd dros eu hoff brosiect yn rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2010. Mae'r pleidleisio bellach wedi cau yn y rownd derfynol.

Cyhoeddir y canlyniadau mewn digwyddiad dathlu yn llawn sêr, a ddarlledir yn fyw ar BBC One ym mis Medi.

Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn gais blynyddol i ganfod hoff brosiectau a ariennir gan y Loteri yn y DU. Mae'r holl brosiectau eisoes wedi derbyn arian y Loteri ac mae'r Gwobrau yn dathlu sut maent wedi gwneud defnydd da ar yr arian hwnnw.

Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £25 miliwn yr wythnos dros brosiectau o bob cwr o'r DU. Mae'r Gwobrau yn tynnu sylw at sut mae'r arian hwnnw wedi newid y DU er gwell. Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae dros 340,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Os oes gennych ymholiadau yn ymwneud â'r Gwobrau, cysyllter â: matthew.mansfield@lotterygoodcauses.org.uk