Gwobrau'r Loteri Genedlaethol
> Ynglyn â'r GwobrauYnglyn â'r Gwobrau
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn gais blynyddol i ganfod hoff brosiectau DU a ariennir gan y Loteri. Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £28 miliwn yr wythnos dros brosiectau ymhob cwr o’r DU. Mae'r Gwobrau yn ffordd wych o dynnu sylw at sut mae’r arian hwnnw wedi newid y DU er gwell.
Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, mae’r Gwobrau yn cydnabod y gwahaniaeth anhygoel y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri wedi’i wneud i bobl, lleoedd a chymunedau ar draws y DU. Maen nhw hefyd yn dathlu talent, gwaith caled ac ymroddiad rhyfeddol y bobl sy’n gysylltiedig â’u rhedeg.
Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae dros 350,000 o grantiau wedi’u dosbarthu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd.
Mae saith categori i'r Gwobrau, gyda phob un yn adlewyrchu’r gwahanol fathau o brosiectau sydd wedi elwa o arian y Loteri. Y categorïau yw:
• Y Prosiect Celfyddydau Gorau
• Y Prosiect Addysg Gorau, mewn cysylltiad â’r cylchgrawn Best
• Y Prosiect Amgylcheddol Gorau
• Y Prosiect Iechyd Gorau, mewn cydweithrediad gydag iVillage.co.uk
• Y Prosiect Treftadaeth Gorau
• Y Prosiect Chwaraeon Gorau
• Y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau
Sut y mae’r Gwobrau yn gweithio?
Fe wnaeth sefydliad annibynnol - Neil Stewart Associates - adolygu’r holl geisiadau gan lunio rhestr hir. Yna fe wnaeth panel beirniadu annibynnol lunio rhestr fer o 10 prosiect ym mhob categori i fynd ymlaen i rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus.
Cynhelir rownd gynderfynol y bleidlais gyhoeddus rhwng 9am Ddydd Mawrth 31 Mai a hanner dydd Ddydd Llun 20 Mehefin, a bydd modd pleidleisio ar-lein a dros y ffôn. Y tri phrosiect ym mhob categori gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn symud ymlaen i rownd derfynol y bleidlais gyhoeddus a gynhelir rhwng 9am Ddydd Gwener 2 Medi a hanner dydd, Dydd Llun 26 Medi.
Y prosiect gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob categori fydd yn cael ei ddatgan yn enillydd. Mae’r bleidlais yn y ddwy rownd yn cael ei monitro’n annibynnol a’i beirniadu gan y Gwasanaethau Diwygio Etholiadol.
Bydd y tri phrosiect yn y rownd derfynol ym mhob un o’r saith categori yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad y Gwobrau yn llawn enwogion a ddarlledir ar BBC One yn gynnar ym mis Tachwedd, ble bydd y canlyniadau yn cael eu datgelu (am ragor o fanylion ar y digwyddiad terfynol a'r sioe ar BBC One, anfonwch e-bost at: awards@lotterygoodcauses.org.uk). Yn ychwanegol at arian y Loteri y maen nhw eisoes wedi’i dderbyn, bydd pob enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 i’w gwario ar eu prosiect.
